Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein cymuned arweinyddiaeth mewn ysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Ni fu erioed adeg pan fu arweinyddiaeth benodedig ac ysbrydoledig mewn ysgolion yn fwy hanfodol, ac mae arweinwyr wedi darparu hynny ar gyfer ysgolion, y proffesiwn a'n dysgwyr ledled Cymru. 

Un o'r heriau mwyaf amlwg yn ystod y cyfnod hwn oedd sicrhau mynediad at ddysgu proffesiynol a chymorth i arweinwyr, yn enwedig yng nghyd-destun diwallu anghenion dysgwyr yn ystod y pandemig a pharatoi ar yr un pryd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae nifer o adroddiadau yn ystod y cyfnod hwn wedi tynnu sylw at effaith y pandemig ar ansawdd, gwelededd a chydlyniad y cymorth sydd ar gael i arweinwyr. Wrth inni ddod allan o'r cyfnod hwn ac edrych ymlaen at gam nesaf ein taith diwygio addysg a fydd yn gwella bywydau ein dysgwyr a hefyd yn gwella ein proffesiwn addysgu, mae angen inni gymryd camau i sicrhau bod ein harweinwyr yn cael eu cefnogi'n briodol a bod ganddynt becyn o gymorth dysgu proffesiynol y gallant elwa arno.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud bod ymrwymiad a ffocws Cymru ar ddysgu proffesiynol yn eithriadol o gymharu â nifer o awdurdodaethau eraill y Sefydliad. Mae eraill wedi amlygu pethau cadarnhaol gan gynnwys y pwyslais a roddir ar ddatblygu, cefnogi a hyfforddi arweinwyr fel agwedd bwysig a gwerthfawr iawn ar y cyd-destun polisi yng Nghymru. Mae hynny i’w groesawu. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid mewn dysgu proffesiynol. Yn 2022-23 bydd cyfanswm y buddsoddiad yn £28 miliwn.

Er hynny, fel y dywedais yn fy araith i benaethiaid ym mis Chwefror 2022, nid wyf eto wedi fy narbwyllo bod ein cynnig dysgu proffesiynol mor hygyrch, mor gydlynol ac mor gyson ag y gallai fod, a dangosais fy ymrwymiad i newid hynny.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu hawl wirioneddol genedlaethol sy’n dwyn ynghyd becyn o gymorth dysgu proffesiynol y bydd pawb â hawl iddo ac yn elwa arno. Bydd yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ar gael o fis Medi ymlaen, ac mae gwaith datblygu ar y cyd ag ymarferwyr eisoes wedi dechrau.

Mae’n gwaith ar y sylfaen dystiolaeth (Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol) i ategu’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd yn ein system addysg wedi dangos inni amrediad o feysydd lle gellir gwneud gwelliannau. Mae’r adroddiadau annibynnol yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw (Cynllunio a strategaeth addysg a sgiliau), ochr yn ochr ag adolygiadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi yn y maes hwn, yn gyson yn eu canfyddiadau bod yn rhaid inni wella cysondeb y cymorth ledled y wlad, gan wella hefyd welededd y cymorth i ymarferwyr a’n dealltwriaeth o effaith darpariaeth a chymorth ar arferion ar lefel ysgolion.

Mewn ymateb i’r sylfaen dystiolaeth hon, rydym yn cymryd nifer o gamau gweithredu:

  • Bydd yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella rydym yn ei gyhoeddi’r wythnos hon yn gymorth i arweinwyr ysgolion a chonsortia rhanbarthol
  • Rydym yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ar well dealltwriaeth o effaith cymorth a darpariaeth dysgu proffesiynol
  • Byddwn yn cynnal adolygiad annibynnol o’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)
  • Rydym yn cryfhau ac yn ymestyn proses gymeradwyo yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Dysgu Proffesiynol
  • Rydym yn cryfhau’r prosesau sicrhau ansawdd ar gyfer dysgu proffesiynol yn ehangach mewn partneriaeth gyda’r consortia rhanbarthol
  • Byddwn yn cynyddu nifer y Cymdeithion sy’n gweithio o fewn yr Academi Genedlaethol er mwyn gwella rôl yr Academi yn y system
  • Rydym yn cryfhau ac yn egluro’r sylfaen adnoddau sydd ar gael yn genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, yn enwedig o ran y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan y cwricwlwm newydd
  • Rydym yn gweithio gydag undebau, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod Cynorthwywyr Addysgu yn cael mynediad at ddysgu proffesiynol fel rhan o’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol i sicrhau y gall y gweithlu cyfan ddatblygu eu sgiliau a chefnogi’r cwricwlwm newydd.

Yn ogystal â'r camau gweithredu uniongyrchol hyn, mae angen inni sicrhau bod y system sy'n cefnogi ein harweinwyr addysgol yn cyd-fynd yn briodol ac yn gweithio’n gyson â’r ffordd yr ydym am i’n hysgolion fod yn y dyfodol ledled Cymru. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid haen ganol i sicrhau bod eu rolau priodol yn gliriach, boed hynny mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd, Dysgu Proffesiynol neu wella ysgolion.

Bydd ein canllawiau gwella ysgolion yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Mehefin a byddant yn sicrhau bod y ddealltwriaeth ar draws y system yn gyson o ran yr hyn sy’n gweithio’n dda – o wireddu'r cwricwlwm newydd, i'n ffocws ar degwch, i'n buddsoddiad mewn ysgolion yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid haen ganol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Consortia Rhanbarthol, Estyn ac eraill i sicrhau bod pob un ohonynt yn glir ynghylch eu cyfraniadau i'r system, a bod asiantaethau sy'n cefnogi arweinyddiaeth yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi arweinwyr.

Does dim amheuaeth bod COVID wedi effeithio ar y profiad o arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol ar draws ein hysgolion. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i arweinwyr ysgolion, athrawon a’r gymuned broffesiynol yn ehangach er mwyn gwireddu’r cwricwlwm yn ein hysgolion.