Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymorth mae'n ei chynnig i astudio'n ôl-radd gan fyfyrwyr sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru.

Derbyniais yr argymhelliad gan yr Athro Syr Ian Diamond o ganlyniad i'r Adolygiad o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllido Myfyrwyr. Mae'r argymhelliad yn datgan y dylai astudiaethau Meistr Ôl-radd gael eu cefnogi gan becyn ariannol tebyg i'r un sydd ar gael i astudiaethau israddedig. Mae cymwysterau ôl-radd yn chwarae rôl gynyddol bwysig yn yr economi. Bydd gwell cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl i ennill cymwysterau ar y lefel hon, gan ddatblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd.  

Bydd cymorth ariannol o £17,000 ar gael i unigolyn sy'n dechrau astudio cyrsiau Meistr ôl-radd yn y flwyddyn academaidd 2019/2020 (yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir).  Bydd y cymorth hwn, sydd yn para am gyfnod y cwrs, yn gynnydd sylweddol o'r £13,000 a oedd ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser yn 2018/19.  Bydd tair elfen i’r cymorth:

  • grant sylfaenol o £1,000 ar gael i bob myfyriwr cymwys nad yw'n seiliedig ar brawf modd i gyfrannu at eu costau;
  • grant ychwanegol o £5,885 ar gael i fyfyrwyr cymwys o aelwyd sydd ag incwm o hyd at £18,370 y flwyddyn, sy'n seiliedig ar brawf modd, i gyfrannu at eu costau – am bob £6.937 o incwm aelwyd y flwyddyn uwchlaw'r trothwy hwn, bydd gostyngiad o £1 yn y grant ychwanegol sy'n seiliedig ar brawf modd; a
  • benthyciad ar gael i bob myfyriwr cymwys nad yw'n seiliedig ar brawf modd i gyfrannu at eu costau - bydd swm y benthyciad sydd ar gael yn cyfateb i lefel cyfanswm y cymorth (£17,000 yn 2019/20) wedi tynnu cyfanswm y grant (y grant sylfaenol a'r grant ychwanegol) y mae myfyriwr yn gymwys i'w gael.

Bydd yr amodau cymhwystra yn aros yr un fath ag amodau blwyddyn academaidd  2018/19 ac eithrio i'r rhai sydd â chaniatâd adran 67 i ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig fel myfyrwyr cymwys. Yn ogystal â hyn, bydd y rhai o dan 25 oed sy'n gadael gofal yn derbyn uchafswm y cymorth grant.  Mae hyn yr un fath â'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr astudiaethau israddedig.

Bydd y pecyn cynyddol hwn o grantiau a benthyciadau, sy'n cynnwys grant sylfaen cyffredinol, yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir i wneud cyrsiau Meistr ôl-radd. Yn dilyn cyflwyno'r pecyn cymorth ariannol newydd i israddedigion y llynedd, bydd myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais am Gwrs Meistr ôl-radd nawr yn elwa o gael y pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.

Er hynny, mae’n dal i fod yn destun pryder imi na allaf ehangu’r pecyn cymorth hwn i unigolion 60 oed a throsodd oherwydd cyfyngiadau Trysorlys Ei Mawrhydi. Rwyf wrthi’n ystyried, felly, sut y gallaf ddarparu cymorth grant ychwanegol i fyfyrwyr cymwys sy’n 60 oed a throsodd sydd am astudio cyrsiau Meistr ôl-radd yng Nghymru yn ystod y cyfnod academaidd nesaf.

Rwyf wedi sylwi hefyd pa mor llwyddiannus y mae ein sefydliadau wedi bod wrth recriwtio a chadw myfyrwyr o Gymru ers i Lywodraeth Cymru ddechrau darparu cymorth ychwanegol yn 2018/19. Rwyf am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Rwyf wrthi’n ystyried sut y gallaf gynnig cymorth ychwanegol i Brifysgolion Cymru fel y gallant barhau i gynnig cymhelliad i ddenu myfyrwyr mwyaf talentog Cymru, a’u helpu i wneud cynnydd. Mae’n debygol y byddwn yn wgneud hyn mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’n sectorau thematig cenedlaethol, fel y’u nodir yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynghylch y ddau fater hwn maes o law.

Yn ogystal bydd cymorth tuag at fenthyciadau doethurol yn codi o £25,000 i £25,700 yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20.