Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant drwy gyfrannu tuag at ei chynlluniau uchelgeisiol i greu canolfan arloesol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin.

Mae gan brosiect Yr Egin y potensial i ddarparu seilwaith a fydd yn cefnogi clwstwr o fusnesau creadigol a gwella enw da Cymru yn y cyfryngau, drwy gynnig lleoliad a chyfleoedd i rwydweithio ar gyfer busnesau eraill, myfyrwyr y Brifysgol ac entrepreneuriaid.

Bydd ein cyfraniad yn helpu Caerfyrddin i adeiladu ar benderfyniad S4C i leoli ei phencadlys yno, ac er mwyn sicrhau perfformiad da a gwerth am arian bydd gofyn i'r Brifysgol weithio gyda'i phartneriaid i lunio pecyn cyllido llawn.  

Yn ogystal â helpu i ddenu swyddi o ansawdd uchel i Gaerfyrddin, rwy'n disgwyl y bydd ein cymorth yn helpu i gyflawni amcanion cymdeithasol a diwylliannol ehangach y prosiect, ac yn helpu i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw, ffyniannus.