Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar ein bywydau – ac mae hynny’n parhau.

I blant – ac i rai o’n plant, ein pobl ifanc a’n teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed – mae effaith y feirws a’r heriau y maent yn eu hwynebu yn llawer mwy.

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hynny ac ymateb i’r anghenion, rwyf heddiw yn cyhoeddi pecyn cyllid sylweddol. Mae hyn yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau, a amlinellwyd yn gynharach yn y mis gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles:

Mae’r pecyn yn werth £12.53m i gyd, a bydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod eithriadol, heriol iawn hwn.

Mae’n cynnwys:

  • £2m i roi hwb i’r Gronfa Datblygiad Plant, a fydd yn rhoi cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd lle bo oedi mewn datblygiad mewn meysydd fel lleferydd, iaith a chyfathrebu; sgiliau echddygol manwl a bras; a datblygiad personol a chymdeithasol;
  • £100,000 i wella sgiliau’r gweithlu gofal plant a gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol a’u hyfforddi i ddarparu cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant a theuluoedd;
  • £800,000 i hyrwyddo sefydlogrwydd teuluoedd ac ansawdd cydberthnasau, gan roi cymorth i deuluoedd sy’n profi anawsterau, helpu i ddatrys gwrthdaro a lleihau straen o fewn teuluoedd;     
  • £860,000 i gyllido prosiectau cyfalaf i wella ansawdd y gwasanaethau a gynigir i deuluoedd yn ardaloedd Dechrau’n Deg;
  • £125,000 i ymestyn rhaglen drawsnewid integreiddio’r blynyddoedd cynnar er mwyn tynnu ynghyd wasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr amser iawn ac yn y ffordd iawn;  
  • £1.4m i fyrddau iechyd lleol ar gyfer cymorth iechyd meddwl ychwanegol i bob oed dan arweiniad y sector gwirfoddol.  

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cymorth gwasanaethau cymdeithasol i helpu teuluoedd i allu aros gyda’i gilydd yn ddiogel, ac i gefnogi a datblygu capasiti’r ddarpariaeth gofal maeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • £1.6m i awdurdodau lleol i’w cefnogi i osgoi gosod unigolion ar y gofrestr amddiffyn plant mewn ffordd ddiogel;
  • £2.2m i awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu darpariaeth cynadleddau grŵp teulu sy’n well neu ar ffurf wahanol;
  • £3m i gefnogi gwaith asesu i ddatblygu model Llys Teulu (Cyffuriau ac Alcohol) yng Nghymru, yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac er mwyn helpu i gwtogi ar restr yr achosion sydd wedi cronni a chefnogi unigolion sy’n gadael gofal;
  • £75,000 i sefydlu tîm trawsnewid a chymorth i gefnogi’r gwaith o wella a datblygu gwasanaethau cymdeithasol plant;
  • £320,000 i ddatblygu brand Foster Wales fel rhan o’n gwaith i weithredu Fframwaith Maethu Cenedlaethol Cymru;
  • £50,000 i gynllunio a darparu hyfforddiant arbenigol i ofalwyr maeth.