Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n credu bod gan ffermio organig ran bwysig i’w chwarae yn nyfodol ein sector amaethyddol yng Nghymru.  Mae statws organig yn gallu ychwanegu at werth ein cynnyrch ac mae rheolaeth organig yn seiliedig ar egwyddorion sy’n cynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol.  Mae ffermio organig felly yn cefnogi fy agenda ar gyfer Twf Gwyrdd a ddisgrifiais yn fy Natganiad Creu Dyfodol Cadarnach a Mwy Ffyniannus.

Nid oes dwywaith fodd bynnag bod cynhyrchwyr organig Cymru wedi wynebu problemau mawr iawn yn y blynyddoedd diwethaf.  Cafodd y dirywiad yn yr economi effaith negyddol iawn ar werthiant organig ledled y Deyrnas Unedig (DU).  Gwelwyd gostyngiad o’r herwydd ym mhremiymau’r farchnad i ffermwyr am eu cynnyrch organig ond yr un pryd, codi wnaeth costau ffermio organig.  O dan yr amgylchiadau anodd hyn yn y farchnad, rydym wedi gweld gostyngiad o ryw 25% yn nifer y busnesau fferm sy’n dewis ffermio organig fel eu model busnes.  Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rwyf wedi ceisio tawelu meddyliau ffermwyr organig trwy sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gydnabod buddiannau ffermio organig ac yn ei ddigolledu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG).

Pan gefais fy mhenodi i’r swydd hon yn 2011, dywedais mai fy mwriad oedd creu cynllun cynnal a throi’n organig annibynnol o dan y CDG nesaf yn unol ag adroddiad y Grŵp Adolygu Glastir Annibynnol a gyhoeddais ym mis Mawrth 2011. Hefyd, y ni oedd y llywodraeth gyntaf yn y DU i estyn trefniadau talu’r cynllun organig presennol o dan CDG 2006-2013.  Rhoddais addewid yn hyn o beth cyn gynted ag y cefais o dan y rheoliadau pontio newydd a gyhoeddwyd gan yr CE haf diwethaf.  Hefyd, talodd Llywodraeth Cymru i gonsortiwm o dan arweiniad y Ganolfan Ymchwil Organig i holi cynhyrchwyr organig a’m cynghori ar y trefniadau ar gyfer cynllun newydd o dan y CDG newydd.  Fis Tachwedd diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar y cynigion newydd hyn a chynhaliwyd nifer o weithdai poblogaidd i’w trafod gyda ffermwyr organig ym mhob rhan o’r wlad.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 21 Ionawr 2014 ac rwyf mewn sefyllfa nawr i esbonio fy mwriadau ar gyfer cymorth organig o dan y CDG nesaf. 

Mae dros 60% o ffermwyr organig naill ai wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun Glastir neu eisoes yn rhan ohono.  Rwy’n credu y dylai’r ffermwyr hyn gael ymuno â chynllun Organig newydd Glastir tra’n parhau i fod yn gymwys i ddarparu hefyd y nwyddau a’r gwasanaethau amgylcheddol eraill y gofynnir amdanyn nhw yn elfennau eraill Glastir.  Dyma fydd y sylfaen ar gyfer datblygu’r cynllun newydd.  Bydd y cyfraddau talu hefyd yn cael eu hadolygu yng ngoleuni costau cyfnewidiol ac i gydnabod yn well y costau sy’n gysylltiedig â bod yn organig.  Yr un pryd, bydd y cynllun newydd yn sicrhau gobeithio na fydd y cyfraddau talu am droi’n organig yn arwain at nifer fawr o ffermwyr yn troi’n organig heb fod ganddynt strategaeth i gynnal busnes proffidiol – rhywbeth gwaetha’r modd a ddigwyddodd ym mlynyddoedd cynnar CDG 2006-13.  Am y rheswm hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r ffermwyr sy’n ceisio i’r CDG am gymorth i ffermio’n organig fod wedi paratoi cynllun busnes addas.

Bydd y cynllun newydd yn cynnwys hefyd y gofyn a thâl i fynd am hyfforddiant ac i ddatblygu sgiliau.  Rwy’n credu bod hyn yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau amgylcheddol a hefyd i foderneiddio busnesau fferm.  Bydd gan ffermwyr organig hefyd yr un cyfleoedd i fanteisio ar gymorth cyfalaf i foderneiddio’u ffermydd o dan y cynllun Cynhyrchu Cynaliadwy newydd a gynigiais yn fy ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol Glastir.  Fy mhenderfyniad i drosglwyddo 15% o gyllideb Colofn 1 i Golofn 2 sydd wedi sicrhau bod cyllideb i ehangu’r cymorth ar gyfer hyfforddiant a moderneiddio – dau beth yn fy marn i sy’n gwbl angenrheidiol i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir y diwydiant amaeth yng Nghymru.

Byddwn yn gwahodd ceisiadau am y cynllun Ffermio Organig newydd ar ôl yr Hydref eleni ac rwy’n credu y dylai’r cynllun newydd roi addewid i ffermwyr organig ledled Cymru bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i egwyddorion ffermio organig fel rhan bwysig o’n strategaeth ehangach ar gyfer y diwydiant.  Yr un pryd, bydd y cynigion yn sicrhau bod ffermio organig yn datblygu mewn ffyrdd cynaliadwy sy’n cyfrannu at ffyniant cefn gwlad Cymru yn y dyfodol.  Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i weld manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymatebion Llywodraeth Cymru.