Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod argyfwng costau byw, mae'n bwysicach nag erioed bod pob mesur yn cael ei gymryd i sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u cefndir, yn gallu cael addysg uwch.

Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru system cymorth flaengar a theg i fyfyrwyr – ac un sy'n unigryw yn Ewrop – ar gyfer ariannu israddedigion ac ôl-raddedigion amser llawn a rhan-amser. Mae'r system honno’n seiliedig ar gefnogi myfyrwyr i dalu costau byw tra byddant yn astudio.

Rydym wedi penderfynu bod cyfradd y cymorth i fyfyrwyr yn gysylltiedig â gwerth y Cyflog Byw Cenedlaethol – a fydd yn cynyddu'n sylweddol yn y flwyddyn ariannol 2023-24. Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, gallaf gadarnhau heddiw ein bod wedi sicrhau bod gwerth y cymorth yn cael ei gynyddu yn unol â’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y cyfnod hwn o bwysau eithriadol costau byw.

Mae hyn yn golygu y bydd cyfradd y cymorth ar gyfer cynhaliaeth sy'n cael ei thalu i fyfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser o Gymru yn cynyddu 9.4% yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, yn amodol ar y rheoliadau sy'n cael eu gwneud yn gynnar ym mis Chwefror. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd o 2.8% i fyfyrwyr sy'n byw fel arfer yn Lloegr.

Mae ein cymorth ariannol i fyfyrwyr wedi cynyddu'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y cynnydd hwn yn berthnasol i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser a ddechreuodd gwrs ar 1 Awst 2018, neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ddarparu'r system gyllid fwyaf flaengar i fyfyrwyr yn y DU. Mae gan fyfyrwyr israddedig o Gymru lai i'w ad-dalu ar gyfartaledd na'u cyfoedion yn Lloegr am eu bod yn gallu cael ein pecyn hael o grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw. Ac mae'r lefel uchaf o gymorth grant yn cael ei rhoi i'r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen.

Mae pecyn cymorth sylweddol ar gael i fyfyrwyr rhan-amser, sy’n galluogi myfyrwyr o bob cefndir i ddilyn cwrs astudio rhan-amser.

Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr rhag astudio mewn prifysgol. Bydd y cynnydd yn y cymorth ariannol rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu manteisio ar addysg uwch.