Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad ar ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyrsiau addysg bellach sydd â blwyddyn sylfaen (Cymorth ar gyfer blynyddoedd sylfaen, WG28123). Yn yr ymgynghoriad, nodwyd nifer o bryderon mewn perthynas â’r ddarpariaeth hon. Rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth inni wneud newidiadau i’r trefniadau cymorth myfyrwyr ar gyfer y cyrsiau hyn ar hyn o bryd.

Yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, nodwyd ambell nodwedd o’r ddarpariaeth sy’n llwyddiant ac ambell beth cadarnhaol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yr ymatebion yn dangos nad oes sail i’r pryderon a fynegwyd yn yr ymgynghoriad – ni phrofwyd bod y pryderon yn ddi-sail. Rwyf felly’n bwriadu:

  • monitro nifer y myfyrwyr sydd ar y cyrsiau hyn ac sy’n cael cymorth
  • monitro nifer y myfyrwyr sydd yna’n symud ymlaen i’r flwyddyn gyntaf israddedig
  • dechrau ymchwil a gwerthusiad fel y bo angen, o bosib gan gynnwys astudiaeth o werth am arian.

ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cymorth-ar-gyfer-blynyddoedd-sylfaen