Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 3 Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad (WG27990) ynghylch cyflwyno cynllun benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru.

Mae’n dda gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cynllun ar waith, yn amodol ar wneud y ddeddfwriaeth berthnasol.

Rwy’n rhagweld y bydd y cynllun yn cynnwys benthyciad o £10,280 i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru ac sy’n ymgymryd â chyrsiau sy’n cael eu dysgu neu gyrsiau ymchwil sy’n arwain at ddyfarnu gradd Meistr.

Caiff y cwrs fod yn llawn amser neu’n rhan amser a gall gael ei gynnal unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd cymorth ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau ar 1 Awst 2017 neu ar ôl hynny. Cyhoeddir manylion llawn a therfynol y cynllun benthyciad arfaethedig pan gaiff y rheoliadau drafft eu rhoi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yng ngwanwyn 2017.

Gwnes i ddatganiad ar 22 Tachwedd 2016 ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion a wnaed gan yr Athro Syr Ian Diamond ynglŷn â chymorth i fyfyrwyr. Gwnaeth yr Athro Diamond argymhellion ar gyfer cymorth ôl-raddedig. Ni ddisgwylir i’r argymhellion gael eu rhoi ar waith tan 2018/19 neu’n hwyrach, ac nid ydynt yn effeithio ar y cynllun benthyciadau ôl-raddedig sy’n cael ei roi ar waith yn 2017/18.