Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Gyda'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn mynd yn ei flaen gan greu ansicrwydd ar draws marchnadoedd y byd, rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn cael trafferth gyda'u costau byw, yn enwedig aelwydydd sy'n dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi.
Rydyn ni felly’n croesawu'r £3.8m gan Lywodraeth y DU i helpu aelwydydd yng Nghymru sy'n defnyddio olew i wresogi a thwymo dŵr, yn sgil y cynnydd diweddar mewn prisiau. Mae costau olew gwresogi mewn ambell fan wedi mwy na dyblu.
Fe wnaethon ni drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid i Gymru yn seiliedig ar nifer yr aelwydydd sy'n defnyddio olew gwresogi yn hytrach nag ar fformiwla Barnett - mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol.
Bydd cyllid y DU yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27. Ond rwy'n sylweddoli bod angen cymorth ar aelwydydd nawr – ac rydyn ni wrthi'n cymryd camau i sicrhau bod cymorth ariannol ychwanegol ar gael ar unwaith i aelwydydd sydd â'r angen mwyaf, hynny yn unol â'n ffordd draws-lywodraethol o ddelio â'r argyfwng costau byw.
Rydym eisoes yn darparu cymorth i'r rhai sy'n prynu tanwydd nad yw ar y grid ac yn profi tlodi tanwydd, trwy ein Cronfa Gymorth yn ôl Disgresiwn. Rydym wrthi'n cynyddu’r cymorth hwnnw dros dro i £750 fesul dyfarniad i’r bobl hynny sydd mewn argyfwng ariannol, er mwyn talu am olew gwresogi tra bod prisiau'n uchel - gan ddefnyddio ein cyllidebau ein hunain eleni. Rydym hefyd wedi cynyddu pa mor aml y gellir talu'r taliadau hyn, o unwaith i ddwywaith mewn cyfnod treigl o ddeuddeg mis, gydag o leiaf tri mis o fwlch rhwng y ddau.
Byddwn yn rhoi gwybod i'r Partneriaid Cymeradwy DAF am y newidiadau hyn. Nhw sy'n cyflwyno'r ceisiadau am y cymorth hwn, sy'n cynnwys awdurdodau lleol.
Mae'r Sefydliad Banc Tanwydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn cynyddu'r cymorth lleiaf y gellir ei roi drwy eu cynllun cenedlaethol, Heat Fund, yng Nghymru i'r rhai mewn argyfwng tanwydd. Mae'r Sefydliad yn darparu talebau tanwydd ar gyfer prynu olew neu nwy i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â’r grid nwy. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i gefnogi aelwydydd sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Cynllun Nyth Cartrefi Clyd i ni allu gwrthsefyll sioc prisiau yn well y dyfodol. Mae dros £30 miliwn wedi'i ddyrannu y flwyddyn nesaf i ariannu mesurau arbed ynni, ynni adnewyddadwy a gwres glân – i ostwng biliau, lleihau effeithiau'r hinsawdd, cynyddu'n hannibyniaeth ynni a chefnogi swyddi lleol.
Rydym yn cadw llygad manwl ar y sefyllfa a byddwn yn datblygu opsiynau ar gyfer ein hymateb ehangach a'r ffordd orau o ddefnyddio'r £3.8m a gaiff ei neilltuo yn 2026-27.
Rhwng 2022 a 2026, rydyn ni wedi buddsoddi dros £7bn i helpu aelwydydd drwy raglenni sy’n lleihau'r pwysau ariannol arnyn nhw, i'w helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm ac i'w helpu i gadw mwy o'u harian yn eu pocedi. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn ein Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg, mewn Prydau Ysgol Am Ddim i bob Disgybl Cynradd a brecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd.
Y gaeaf hwn, mae aelwydydd cymwys sy'n cael Gostyngiad yn eu Treth Gyngor a'r Gostyngiad i Fandiau'r Anabl yn cael taliad o £100 trwy eu hawdurdod lleol, ac mae ein Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor wedi neilltuo mwy na £290m o gymorth ariannol eleni i bron i 260,000 o aelwydydd incwm isel. O'r rheini, nid yw bron i 214,000 ohonynt yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Mae ein cyllid ar gyfer Canolfannau Diogel a Chlyd yn darparu mannau cynnes a diogel yn y gymuned lle gall pobl gael cwmnïaeth a chefnogaeth. Roedd dros 800 o ganolfannau clyd ledled Cymru yn darparu cymorth hanfodol i gymunedau y gaeaf hwn.
Mae darparu Cymorth Bwyd mewn Argyfwng yn parhau i fod yn rhan allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i'r cynnydd parhaus mewn costau byw sy'n wynebu ein cymunedau, ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n ei chael yn anodd fforddio bwyd. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gadarnhau £1m ychwanegol ar gyfer mudiadau bwyd cymunedol a banciau bwyd ledled Cymru i helpu i fwydo mwy o bobl sydd angen help. Ers 2019, rydym wedi dyrannu dros £30 miliwn i helpu mudiadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac i daclo ansicrwydd bwyd. Mae hyn yn cynnwys cyllid i bartneriaethau bwyd lleol ar gyfer mynd i'r afael â bwyd fforddiadwy ac ag ansicrwydd bwyd.
Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd mewn trybini i gysylltu â llinell gymorth Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus ichi AdviceLink Cymru i weld pa gymorth ariannol a allai fod ar gael iddyn nhw. Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl i gael budd-daliadau, pensiynau, cymorth gyda chostau gofal a gostyngiadau i'r dreth gyngor y gallai fod ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Mae mwy na £10.5 miliwn wedi'i ddychwelyd i bobl ers 2020.
