Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y llifogydd dinistriol a darodd Pacistan yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £100,000 at Apêl y Pwyllgor Argyfyngau (DEC) ar gyfer y Llifogydd ym Mhacistan.

Mae'r llifogydd difrifol wedi boddi ardaloedd anferth o dir, ac yn golygu bod angen cymorth ar fyrder ar fwy na 6 miliwn o bobl. Yn ôl llywodraeth Pacistan, mae traean o'r wlad – sy'n cyfateb o ran maint i arwynebedd y DU – o dan ddŵr, yn yr hyn y mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, wedi ei alw'n "drychineb hinsawdd". Mae pentrefi cyfan wedi cael eu hynysu, ac achubwyr yn ei chael yn anodd eu cyrraedd. Mae o leiaf 1,400 o bobl wedi cael eu lladd a thua 13,000 wedi eu hanafu.

Effeithiwyd ar ardaloedd anferth o dir amaethyddol, ysgubwyd cnydau ymaith a lladdwyd tri chwarter miliwn o dda byw, gan olygu y bydd llawer o bobl yn llwgu yn y tymor hwy. Mae risg uchel hefyd oddi wrth glefydau a gludir gan ddŵr wrth iddynt ledaenu yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Pwyllgor Argyfyngau Cymru er mwyn helpu i gydgysylltu ymdrechion codi arian yng Nghymru, a chafodd Apêl Llifogydd Pacistan ei lansio ym mis Medi. Mae'r Pwyllgor Argyfyngau yn dod â sefydliadau blaenllaw yn y DU at ei gilydd i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor, gan gydlynu ymateb dyngarol effeithiol, trefnu bod cymorth yn cyrraedd y bobl y mae arnynt ei angen yn gyflym ac yn ffordd fwyaf costeffeithiol posibl.

Mae timau symudol wedi cael eu hanfon i sgrinio plant ar gyfer diffyg maeth ac i gynnig triniaeth. Mae grantiau arian parod yn helpu pobl i brynu stofiau a chyflenwad tri mis o goed tân ac mae asiantaethau yn cyflenwi dillad gaeaf er mwyn i deuluoedd fedru cadw’n gynnes. Bydd y rhodd hon o £100,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru yn helpu gyda’r gwaith hwnnw.