Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021


Rwyf yn falch o’ch hysbysu heddiw am drefniadau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi unigolion a’u teuluoedd y mae hepatitis C ac HIV wedi effeithio arnynt oherwydd triniaeth gan y GIG gyda gwaed halogedig.  Bydd y trefniadau hyn yn dod i rym yn y flwyddyn i ddod ac fe gânt eu gweinyddu drwy broses newydd y disgwylir iddi ddod i rym ym mis Hydref.

Mae effaith sylweddol heintiau o'r fath ar fywydau llawer o unigolion wedi'i thrafod yn helaeth yn Siambr y Cynulliad gyda chytundeb eang bod rhaid inni wella’r cymorth ex-gratia a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddais fuddsoddiad newydd sylweddol sydd wedi ein galluogi i adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer Lloegr ar sail dros dro yn ystod 2016-17, ond yn bwysicaf oll, fe ymrwymais i ystyried barn y rhai yr effeithir arnynt i sicrhau bod y cymorth hwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau yn y dyfodol a bod ein trefniadau yn dryloyw ac yn deg.

Esblygodd system bresennol y DU mewn modd ad hoc i raddau helaeth, ac mae’n  cynnwys pum cynllun â gwahanol nodau a dulliau.  Clywais safbwyntiau cryf am yr angen i unrhyw gynllun newydd gael ei ddarparu drwy drefniant dielw. Rwyf felly’n cyflwyno un cynllun symlach ar gyfer Cymru i’w weinyddu gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Bydd y rhai a enwir gan gynlluniau presennol y DU fel buddiolwyr yng Nghymru’n  trosglwyddo'n awtomatig i’n cynllun newydd a ddaw i rym ym mis Hydref 2017.  Caiff taliadau rheolaidd uwch (blynyddol, chwarterol neu fisol) o dan y cynllun newydd eu hôl-ddyddio i Ebrill 2017.  Bydd swyddogion yn sicrhau drwy gydweithredu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Adran Gwaith a Phensiynau fod y darpariaethau presennol, lle nad yw taliadau’n effeithio'n andwyol ar atebolrwydd i dalu trethi na’r hawl i gael budd-daliadau, yn cael eu cadw. B yddant yn gweithio hefyd â’r Adran Iechyd a gweinyddwyr y cynllun presennol i sicrhau bod y cyfnod pontio i'r cynllun newydd mor llyfn â phosibl.

Er mwyn llywio penderfyniad heddiw am y trefniadau cymorth, ysgrifennais at bob un o fuddiolwyr y cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2016, i'w gwahodd i gwblhau arolwg a/neu i fynychu gweithdai a gynhaliwyd yn y Gogledd a’r De.  Daeth y broses gydgynhyrchiol hon i ben ar 20 Ionawr ac fe fu’n amhrisiadwy wrth fy helpu i ennill gwell dealltwriaeth o effaith y drasiedi ar fywydau pobl a’r teuluoedd mewn llawer o achosion.  Ochr yn ochr â’r datganiad ysgrifenedig hwn, rwyf yn cyhoeddi crynodeb manwl o'r hyn a glywsom yn ystod yr ymarfer ymgysylltu hwn.  Byddaf hefyd yn ysgrifennu yn bersonol at y buddiolwyr am y trefniadau newydd sy’n cael eu rhoi ar waith i'w cefnogi yn y dyfodol.

Dylanwadodd tair prif neges ar fy mhenderfyniadau.  Y gyntaf oedd bod angen darparu cymorth ehangach y tu hwnt i gymorth ariannol.  Gall unigolion yr effeithir arnynt gael anhawster wrth gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd, yswiriant cartref neu yswiriant teithio, buddion ariannol eraill, neu wasanaethau cyhoeddus addas.  Wedi clywed hyn, rwyf yn bwriadu i’n cynllun newydd gynnwys gwasanaeth cymorth cyfannol ar gyfer pob unigolyn yr effeithir arno – i’w ddarparu wyneb yn wyneb, ar-lein a thros y ffôn.  Rwyf yn credu y bydd hyn yn gwella ymdeimlad ein buddiolwyr o ddiogelwch, ansawdd bywyd a gofal a, gobeithio, yn sicrhau eu bod yn cael eu trin â’r urddas y mae ganddynt yr hawl i'w ddisgwyl.

Yn ail, hoffwn roi sylw i'r pryderon a godwyd ynghylch mynediad i gyllid dewisol.  Nid yw hyn wedi bod yn syml nac yn deg gan nad yw llawer byth yn gwneud cais o gwbl am y cronfeydd hyn a gall y rhai sy’n gwneud cais ei chael yn feichus ac anurddasol llenwi'r ffurflenni i ofyn am symiau cymharol fach o arian yn aml.  Gan fod tegwch yn un o werthoedd ein cynllun newydd, rwyf wedi penderfynu cynyddu’r holl daliadau rheolaidd i gynnwys swm tuag at gostau ychwanegol, megis tanwydd gaeaf ychwanegol; mewn perthynas â thriniaeth (teithio/llety dros nos); ac yswiriant (personol/teithio).  Fy mwriad yw dileu'r angen i bobl wneud cais am y cymorth hwn er y cedwir cronfa ddewisol fach.

Yn olaf, dysgais y gallwn ni wneud mwy i gefnogi'r rhai sydd wedi cael profedigaeth, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar pan allai trallod ac anhawster ariannol fod ar eu gwaethaf.  Nid yw’r taliad untro yn ddigon i helpu pobl i ymgynefino pan ddaw’r taliadau rheolaidd i ben.  I fynd i'r afael â hyn, rwyf wedi penderfynu y caiff personau priod, partneriaid sifil neu bartneriaid 75% o'r taliadau rheolaidd am dair blynedd ar ôl profedigaeth.  Yn achos y rhai sydd newydd gael profedigaeth, bydd taliadau’n  adlewyrchu cyfradd y taliad rheolaidd adeg marwolaeth.  Yn achos y rhai sydd wedi cael profedigaeth mewn blynyddoedd cynharach, bydd cyfradd 2016-17 yn cael eu defnyddio a gwneir un taliad yn llawn.

Hyderaf y bydd yr Aelodau’n cydnabod y bydd hwn yn gynllun newydd tosturiol sy’n gydnaws â’r anghenion a fynegwyd gan y rhai y mae’r digwyddiad trasig hwn wedi effeithio arnynt.  Mae llawer i'w wneud yn awr i sefydlu’r trefniadau newydd hyn, yn weithredol ac yn gyfreithiol, ac i sicrhau cyfnod pontio llyfn.  Rwyf yn hyderus y cyflawnir hyn o Hydref 2017, gyda thaliadau ariannol yn cael eu hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2017.