Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bydd mwy na 100 o bobl yn dathlu'r gwaith rhagorol, sydd wedi'i gyflawni ar y cyd rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Affrica. 

Trefnodd Hub Cymru Affrica y dathliad hwn yn y Senedd i ddod â'r gymuned hon o bobl a sefydliadau ynghyd, i gyfnewid a rhannu dysgu a phrofiadau gwerthfawr, gan wneud partneriaethau Cymru ac Affrica yn gymaint o lwyddiant.

Mae Cymru Masnach Deg yn rhan o bartneriaeth Hub Cymru Affrica. Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd yn 2008. Dros y 12 mis diwethaf, mae Cymru Masnach Deg wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, Llywodraeth Cymru, Masnach Deg yr Alban’ a Llywodraeth yr Alban i adnewyddu meini prawf y Genedl Masnach Deg i adlewyrchu'r newidiadau niferus yn y byd. 

Mae'r meini prawf diwygiedig yn pennu bod Cenedl Masnach Deg yn un lle:

  • Mae ymwybyddiaeth eang o fasnach deg
  • Mae ymgysylltiad sylweddol â masnach deg ar draws gwahanol sectorau o'r gymdeithas
  • Mae cynhyrchion Masnach Deg yn cael eu defnyddio a'u cynhyrchu 
  • Mae cefnogaeth wleidyddol ac ymgysylltiad â masnach deg
  • Mae anghydraddoldebau mewn masnach fyd-eang a chymdeithas yn cael eu herio gan fasnach deg.

Byddwn nawr yn mesur lefelau ymwybyddiaeth, ymgysylltu ag ymgyrchoedd, defnyddio a chynhyrchu nwyddau Masnach Deg, ymgysylltu gwleidyddol â'r mater ac ymgysylltu â materion cyfiawnder masnach ehangach er mwyn adlewyrchu'n well fyd sydd wedi newid cymaint ers 2008.

Yng Nghymru, rydym yn credu mewn cydraddoldeb i bawb, bod gan bawb hawliau dynol sylfaenol, gartref a thramor. Mae masnach deg yn hanfodol i'r gred hon, gan ei bod yn cydnabod ein bod am weithio gyda chynhyrchwyr a phobl mewn cadwyni cyflenwi yn gyfartal i greu partneriaethau â nhw. Dyna pam rydym yn parhau i hyrwyddo a chefnogi'r agenda Masnach Deg drwy gefnogi gwaith gyda Chymru Masnach Deg, a hefyd drwy weithio gyda ffermwyr coffi yn ardal Mount Elgon, Uganda drwy brosiect Jenipher's Coffi. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddangos sut i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae Masnach Deg yn enghraifft sylweddol o sut rydym yn gwneud hyn. Nid gweithredoedd y llywodraeth yn unig sy’n bwysig, ond hefyd unigolion a grwpiau'n gwneud dewisiadau a chodi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg.