Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn nodi wythnos Ffoaduriaid ledled Cymru. Mae'r 12 mis diwethaf wedi ein hatgoffa o greadigrwydd, gwydnwch a chyfraniadau cadarnhaol pobl sy'n ceisio noddfa yn ein gwlad.

Cafwyd llawer o straeon ysbrydoledig ar draws Cymru am ffoaduriaid sydd wedi ailadeiladu eu bywydau yma ac sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol i frwydro yn erbyn y coronafeirws. Mae'r aelodau hyn o'n cymuned wedi bod yn staffio ein GIG, yn pacio parseli i’w dosbarthu i gartrefi, yn rhedeg busnesau cludfwyd a llawer mwy – maent wedi bod ymhlith y rheini sydd wedi’n cadw i fynd. Yn ogystal â'r rheini sy'n helpu mewn lleoliadau gofal iechyd, mae gennym enghreifftiau gwych fel y Prosiect Cinio Syriaidd yn Aberystwyth a goginiodd brydau bwyd a'u rhoi i ysbytai ar anterth y don gyntaf, a ffoaduriaid a gyrhaeddodd yma pan yn blant sydd bellach yn feddygon sy'n helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl o ran y rhaglen frechu.

Mae rhannu gwybodaeth am yr enghreifftiau cadarnhaol hyn yn bwysig gan ei fod yn esbonio egwyddor graidd Cenedl Noddfa. Fel gwlad, gallwn i gyd chwarae rôl allweddol i sicrhau ein bod yn harneisio doniau a brwdfrydedd y rhai sy'n cyrraedd ein glannau.

Yn anad dim, mae gweledigaeth Cenedl Noddfa nid yn unig yn ymwneud â gwneud Cymru’n groesawgar i fudwyr, ond hefyd harneisio'r cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu.

Er gwaethaf heriau'r pandemig, rydym wedi parhau i fwrw ymlaen â’n gweledigaeth. Mae ein gwasanaethau a ariennir – gan gynnwys y 'Rhaglen Hawliau Lloches', y 'Prosiect Symud Ymlaen', y prosiect 'Integreiddio Ffoaduriaid ReStart', a chyngor cyfreithiol Cyfiawnder Lloches - wedi parhau i gyflawni mewn amgylchiadau heriol iawn, ar lwyfannau rhithiol.

Mae ein gwefan Noddfa wedi cael ei diweddaru drwy gydol y pandemig i sicrhau y gellir cael gafael ar negeseuon allweddol am reoliadau Covid-19 yn hawdd mewn llawer o ieithoedd. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ehangu'r wybodaeth a ddarperir ar y wefan i gynnwys gwybodaeth ar gyfer dinasyddion yr UE a Gwladolion Prydeinig Hong Kong, cyn ychwanegu categorïau ychwanegol o fudwyr a all deithio i Gymru i ddechrau bywyd newydd yma.

Rydym hefyd wedi ariannu'r gwaith o osod cysylltiad dros dro i'r rhyngrwyd mewn eiddo lloches yng Nghymru am gyfnod o 6 mis. Bydd hyn yn helpu ceiswyr lloches i gysylltu â'u teulu a'u ffrindiau, ac yn caniatáu mynediad i weithgareddau integreiddio allweddol fel dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a chyngor o ansawdd da.

Wrth i'r pandemig barhau, fe'n hatgoffir na allwn anwybyddu effaith argyfyngau sy'n digwydd ar draws y blaned. Dylai hyn ein hatgoffa ni i gyd fod gennym ddyletswydd i gefnogi'r rhai y mae angen iddynt ffoi a cheisio lloches. Yn hynny o beth, byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall ein barn yn llawn am y Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo.

Cytunwn fod angen diwygio'r system lloches ond nid dyma'r cynigion a fydd yn datrys ein heriau gyda'r tosturi a'r parch at hawliau dynol y mae'r DU fodern yn cael canmoliaeth amdano ledled y byd. Mae angen i ni weld cynigion sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu polisi integreiddio effeithiol - ein cynllun Cenedl Noddfa - o'r diwrnod cyntaf. Mae hyn yn golygu bod angen rhoi ceiswyr lloches mewn cymunedau ac nid mewn canolfannau derbyn ynysig tebyg i garchardai. Mae angen i unigolion allu gweithio a defnyddio eu sgiliau wrth iddynt aros am ganlyniad eu cais. Yn anad dim, rhaid lleihau effeithiau'r system fudo ar blant a phobl sy'n agored i niwed - o effaith gwahanu teuluoedd, bod ar eu pen eu hunain, neu beidio â gallu cael gafael ar gyllid ar gyfer pobl ddiymgeledd.

Byddwn yn parhau i weithio'n galed i geisio newidiadau i system lloches Llywodraeth y DU a fydd yn gwella lles ceiswyr lloches, cydlyniant cymunedol a'n gallu fel Gweinyddiaeth Ddatganoledig i wneud ymyriadau polisi effeithiol i gefnogi'r aelodau hyn o'n cymuned.

Y thema ar gyfer wythnos y ffoaduriaid eleni yw Ni allwn gerdded ar ein pennau ein hunain (We Cannot Walk Alone), sy'n deillio o araith eiconig Martin Luther King Junior ‘Mae gen i freuddwyd'. Roedd ysbryd yr araith hon yn ymwneud ag undod a dyma beth sydd angen i ni ei ddatblygu i sicrhau bod pobl sy'n ceisio noddfa yn gallu cyflawni eu potensial a’n bod ni – fel cenedl – yn gallu cyflawni ein potensial hefyd.

Nid Llywodraeth Cymru’n unig sy'n gyfrifol am y weledigaeth o Genedl Noddfa - mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae. Rydym eisiau i’r cyhoedd yng Nghymru ei chefnogi a chymryd perchenogaeth ohoni. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Phrifysgolion a Cholegau yn gynharach yr wythnos hon sy'n gwella cynwysoldeb eu sefydliadau mewn ymgais i ddod yn fannau Noddfa. Mae ysgolion hefyd yn dechrau ennill statws Ysgolion Noddfa - gan gynnwys pedair ysgol yng Nghaerdydd a gefnogir gan Gyngor Caerdydd. Rwy'n falch o glywed bod y Cyngor bellach wedi ymrwymo i raglen barhaus i hyrwyddo a chefnogi'r hyn ar draws holl ysgolion Caerdydd. Bydd y rhaglen yn cynnwys pecyn o hyfforddiant a chymorth, gweithdai, gwaith arfarnu a dathliad blynyddol. Yn ogystal, drwy ein prosiect ReStart, rydym yn gweithio i annog busnesau i ystyried recriwtio ffoaduriaid a gwneud eu gweithleoedd yn gynhwysol o ran eu hanghenion, gan gyflawni achrediad Busnes Noddfa.

Ni allwn gerdded ar ein pennau ein hunain. Rhaid i ni symud ymlaen gyda'n gilydd ac ymdrechu tuag at newid. Mae pob cam gweithredu unigol – fel y rhai yr wyf wedi'u hamlinellu yn y datganiad hwn - yn dod â ni'n nes at fod yn Genedl Noddfa ac yn ailddatgan enw da ein gwlad fel lle croesawgar a gofalgar.