Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein strategaeth rheoli tybaco hirdymor newydd, Cymru Ddi-fwg, a’n cynllun cyflawni dwy flynedd gyntaf, sef Cynllun Cyflawni Tuag at Gymru Ddi-fwg 2022-24.

Mae’r strategaeth yn disgrifio ein huchelgais i sicrhau bod Cymru yn wlad ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu lleihau canran yr oedolion sy’n smygu i 5% neu lai dros yr wyth mlynedd nesaf. Er mwyn helpu i wireddu’r strategaeth, byddwn yn gweithredu cyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd a fydd yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd wrth inni weithio tuag at Gymru ddi-fwg.

Rydym wedi ymgynghori ac ymgysylltu’n eang mewn perthynas â’r ddwy ddogfen bwysig hon. Roeddem hefyd yn awyddus i ddysgu o brofiadau’r gorffennol o ran rheoli tybaco, ac felly comisiynwyd adolygiad o’n cynlluniau cyflawni a’n strategaeth flaenorol (a gyhoeddwyd yn 2012). Mae canlyniadau’r ymgynghoriad, y gwaith ymgysylltu a’r adolygiad yn cael eu cyhoeddi heddiw hefyd.

Rwyf wedi edrych yn ofalus ar yr ymatebion a gwnaed nifer o newidiadau i’r strategaeth a’r cynllun cyflawni. Roeddwn yn hynod falch o weld bod pobl yn cefnogi ein huchelgais i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030, ynghyd â’r tair thema yn y strategaeth. Nodais hefyd fod yr adborth yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu plant, pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol rhag peryglon tybaco, ac y dylem roi sylw i smygu gan famau fel un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer sicrhau cymdeithas ddi-fwg. Felly, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi sylw i’r meysydd hynny yn yr ymateb. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phobl a chymunedau er mwyn deall y rhesymau dros gyfraddau smygu uwch ymysg rhai grwpiau yn ein cymdeithas, ac er mwyn datblygu mesurau cymorth effeithiol i helpu pobl i roi’r gorau i smygu.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithredu newidiadau ystyrlon sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, atal afiechydon, a helpu pobl i wneud dewisiadau iachach. Mae gweithio tuag at Gymru ddi-fwg a helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn rhan allweddol o hyn.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad, am eu help i lywio ein dull o fynd ati i greu Cymru ddi-fwg.

Mae’r strategaeth a’r cynllun cyflawni, ynghyd â’r adroddiad ymchwil, yr ymgynghoriad, a’r dogfennau ymgysylltu, ar gael yma;

https://llyw.cymru/strategaeth-rheoli-tybaco-hirdymor-i-gymru

https://llyw.cymru/strategaeth-rheoli-tybaco-i-gymru-ar-cynllun-cyflawni

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.