Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 22 Tachwedd 2019 lansiais i ymgynghoriad ar roi Rhan 1, Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar waith – sef y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Bydd y Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol fel 'penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion', ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Parhaodd yr ymgynghoriad am wyth wythnos, ac roedd yn casglu safbwyntiau ar gynnig Llywodraeth Cymru i roi’r Ddyletswydd ar waith, pa gyrff cyhoeddus y dylid eu cynnwys yn y Ddyletswydd a sut y dylid ei chyflawni.

Heddiw rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o 98 ymateb, a daeth dros 140 o fynychwyr i'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled Cymru. Rwyf wrth fy modd ynghylch y lefel o gyfranogiad a'r ffaith i’r ymatebion ddangos cryn gefnogaeth i'r Ddyletswydd. Yn ogystal, awgrym poblogaidd a ddaeth i’r amlwg oedd y dylai cyrff nad ydynt wedi cael eu rhestru (yn y ddeddfwriaeth) "ddilyn egwyddorion y Ddyletswydd".

Fodd bynnag, lleisiwyd pryderon ynghylch y cyfnod byr roeddent wedi’i gael i baratoi ar gyfer gweithredu'r Ddyletswydd – wedi'i gynllunio ar gyfer 1 Ebrill 2020, a gofynnwyd am gyfnod arweiniol hwy.

Ochr yn ochr a’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg, bydd y Ddyletswydd hon yn rhoi'r cyfle inni wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Bydd rhoi’r Ddyletswydd ar waith yn golygu y bydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth galon y broses o wneud penderfyniadau strategol mewn bywyd cyhoeddus, gan adeiladu ar y gwaith da mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud, yn benodol drwy weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

O ystyried pwysigrwydd y Ddyletswydd, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cefnogi ein cyrff cyhoeddus. Rydym am sicrhau eu bod wedi eu paratoi cystal ag y bo modd cyn i'r Ddyletswydd ddod i rym, a sicrhau bod y Ddyletswydd yn cyflawni canlyniadau dros bobl Cymru. Er mwyn cydnabod hyn, ac mewn ymateb i'r ceisiadau am ragor o amser i baratoi, bydd y Ddyletswydd yn dod i rym ar 29 Medi 2020.

Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i lunio’r canllawiau i sicrhau bod y cyrff cyhoeddus perthnasol yn barod am roi'r Ddyletswydd ar waith. Bydd y canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru  o 1 Ebrill. 

Rhwng adeg cyhoeddi'r canllawiau hyn a dyddiad rhoi’r Ddyletswydd ar waith yn hwyrach eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus perthnasol, y TUC, y Comisiwn Cydraddoldeb, cyrff y trydydd sector a'r rhai sydd wedi profi anfantais economaidd-gymdeithasol i fireinio'r ddogfen hon i ddarparu canllawiau statudol. Bydd yr amser hwn yn rhoi cyfle ar gyfer adolygu ac ymgysylltu parhaus, ac yn caniatáu dealltwriaeth well o sut y disgwylir i'r Ddyletswydd gael ei chyflawni yn ymarferol, a'r ffordd mae'n gallu gweithio gyda systemau a phrosesau presennol, gan alinio â deddfwriaeth gydraddoldeb ehangach i helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau Cymru Fwy Cyfartal.

Mae crynodeb o'r ymatebion ar gael yn:

https://llyw.cymru/deddf-cydraddoldeb-2010-cychwyn-y-ddyletswydd-economaidd-gymdeithasol