Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar Ddiwrnod y Gofalwyr, hoffwn estyn diolch Llywodraeth Cymru i’r rhai hynny sy’n darparu gofal di-dâl i eraill, ac i’r sefydliadau sy’n eu cynorthwyo.

Mae gofalwyr di-dâl o bob oed yn rhan werthfawr iawn o’n cymdeithas. Nhw sy’n gwneud 96% o’r gwaith gofalu ar lefel gymunedol – mae gofalwyr nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn teuluoedd a chymunedau, ond hefyd yn cyfrannu mwy na £8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Trwy ein Strategaeth Gofalwyr 2013-2016, mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud, er hynny, mae llawer i’w wneud o hyd. Gallaf sicrhau gofalwyr ledled Cymru bod Llywodraeth Cymru’n parhau’n hollol ymrwymedig i roi blaenoriaeth i weithredu yn y meysydd sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi’r un hawliau i ofalwyr gael eu hasesu am gymorth â'r rhai y byddant yn gofalu amdanynt. O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cynllun cymorth i helpu gofalwyr i sicrhau’r canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw. Daeth y Ddeddf i rym dros flwyddyn yn ôl ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod yr hawliau cryfach hynny’n cael eu cydnabod a bod gweithredu’n digwydd ar eu sail. Hoffwn ddiolch i’n partneriaid ar draws y maes iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector am eu cydweithrediad ar y rhan hon o’n gwaith.

Rwyf heddiw’n cyhoeddi £1m yn 2018/19 ar gyfer y byrddau iechyd lleol, i’w galluogi i gydweithredu â’u holl bartneriaid i wella bywydau gofalwyr, yn unol â’r blaenoriaethau y maent wedi’u nodi. Rydym yn gwybod bod rhaid i’n polisi gofalwyr gael ei lywio gan y rhai sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol ganddo, ac ar sail ymgynghori parhaus gyda gofalwyr. Mae gofalwyr a'u cynrychiolwyr wedi sefydlu mai dyma ddylai fod yn dair blaenoriaeth genedlaethol inni:  

• Helpu i fyw yn ogystal â gofalu. Rhaid i bob gofalwr gael seibiannau rhesymol oddi wrth ofalu er mwyn iddynt allu parhau i wneud hynny, ac i gael bywyd eu hunain y tu hwnt i ofalu. 

• Adnabod a chydnabod gofalwyr. Os ydym am lwyddo i sicrhau canlyniadau gwell i ofalwyr, mae’n hanfodol gwellla adnabyddiaeth gofalwyr o’u rôl a sicrhau bod y cymorth angenrheidiol ar gael iddynt.

• Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Mae'n bwysig bod gofalwyr yn cael yr wybodaeth a'r cyngor cywir priodol ble bynnag a phryd bynnag y mae angen hynny arnynt.

Er mwyn sicrhau bod y broses ymgysylltu yn parhau gyda rhanddeiliaid, rwy’n sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol, Bydd hwn yn cynnwys partneriaid allweddol a bydd yn darparu fforwm cenedlaethol i lywio’r broses o sicrhau gwelliannau i ofalwyr. Bydd hefyd yn daerparu ymateb trawslywodraethol i’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Er mwyn cefnogi'r grŵp hwn, gallaf gadarnhau y byddaf hefyd yn dyrannu £95,000 yn 2018/19 i ariannu prosiectau er mwyn mynd ati ar lefel genedlaethol i gyflawni ar sail y blaenoriaethau.  Rwyf  wedi gwahodd rhanddeiliaid i weithdy ym mis Rhagfyr er mwyn rhoi cyngor pellach ar sefydlu'r Grŵp Cynghori. Bydd y gweithdy yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer prosiectau a ariennir yn genedlaethol yn 2018/19.