Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n cyhoeddi Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn bodloni'r ymrwymiad yn 'Ffyniant i Bawb' i ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chynllun hirdymor.  

Mae'r Cynllun yn gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer 'system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol' yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant ac atal salwch.  Mae'r Cynllun yn gosod nifer o gamau gweithredu i'n harwain tuag at y weledigaeth honno, ac yn disgrifio sut y byddwn yn symud ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau yn barod at y dyfodol.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar am y Cynllun yn y Senedd ddydd Mawrth 12 Mehefin.