Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio Cymru sy’n falch o’r mislif – sef cynllun i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Ers 2018, rydym wedi buddsoddi tua £12m i sicrhau bod plant a phobl ifanc a’r rhai sydd ar incwm isel yn gallu manteisio ar nwyddau mislif am ddim.

Mae’r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais i fynd ymhellach, drwy nodi ein bwriad i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael mewn ystod ehangach o leoliadau. Yn ogystal â hynny, rydym yn bwriadu addysgu pawb am y mislif a chwalu stigma sy’n gysylltiedig ag ef. Byddwn yn gwneud hyn drwy rannu profiadau bywyd pobl sydd wedi wynebu problemau iechyd yn gysylltiedig â’u mislif a’r rhai sydd wedi dioddef tlodi mislif.

Byddwn yn cyflawni ein nod drwy ddarparu addysg fwy cynhwysfawr i bawb ynghylch beth yw’r mislif, sut beth yw mislif ‘arferol’ a phwy i gysylltu â nhw er mwyn cael cyngor, arweiniad a chefnogaeth ychwanegol, yn ogystal â chymorth ymarferol. Bydd y cynllun hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth y mae’r Grant Urddas Mislif yn ei ddarparu. Mae adnodd defnyddiol wedi cael ei ddatblygu sy’n cynnwys map yn dangos y lleoliad mwyaf cyfleus ar gyfer cael gafael ar nwyddau am ddim.

Rwy’n edrych ymlaen at y newidiadau y bydd Cymru sy’n falch o’r mislif yn helpu i’w gweithredu. Nod y newidiadau hyn yw gwneud Cymru yn genedl wirioneddol falch o’r mislif ac yn un sy’n sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt heb embaras na chywilydd.