Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau am wybod fy mod heddiw’n cyhoeddi Agenda Ryngwladol Llywodraeth Cymru a fydd yn arwain gwaith y Llywodraeth, gan nodi amcanion clir yr un pryd ar gyfer ein gweithgarwch rhyngwladol.


Mae’r agenda ryngwladol yn pwysleisio mai busnes a llesiant Cymru sy’n sbarduno gwaith Llywodraeth Cymru dramor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n flaenoriaeth gennyf gynyddu ôl troed rhyngwladol Llywodraeth Cymru er mwyn bod yn fwy rhagweithiol wrth fynd ar drywydd buddsoddi. Rwyf innau, a Gweinidogion eraill, wedi cefnogi hyn trwy arwain cenadaethau ledled y byd. Yn ddiweddar cyhoeddwyd ein ffigurau gorau ers cenhedlaeth o ran buddsoddiadau. Mae hyn yn deillio yn rhannol o ymdrech gynyddol yn rhyngwladol i hybu Cymru fel lle i fuddsoddi, ymweld â hi, astudio a byw. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar strategaeth, dyfalbarhad ac ymrwymiad.

Mae’r ddogfen yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fusnes, cynyddu masnach a buddsoddi rhyngwladol, hyrwyddo twristiaeth a diwylliant, ein lle ni yn yr Undeb Ewropeaidd, cydweithrediad ar brosiectau rhyngwladol ar draws y sectorau addysg ac iechyd, a chynnal presenoldeb cryf mewn marchnadoedd tramor.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein ffigurau
Gwlad fach yw Cymru ond mae’n creu argraff fawr, ac rwyf yn falch bod ganddi enw da drwy’r byd i gyd ac yn uchel ei pharch yn ein cymuned o genhedloedd.
Gyda llwyddiant digwyddiadau rhyngwladol o bwys dros y 5 mlynedd diwethaf, mae hyder Cymru fel gwlad yn tyfu ac mae wedi profi ei gallu i gyflawni ar lwyfan rhyngwladol.

Credaf fod dogfen yr Agenda Ryngwladol yn mapio ffordd ymlaen i weld llwyddiant gwell byth a thuag at adeiladu’r math o Gymru yr hoffem ei gweld, sef Cymru sy’n edrych tuag allan.