Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gwelliant parhaus mewn safonau addysg yw un o'n prif flaenoriaethau fel llywodraeth. Yn ddiweddar, cyhoeddais £1.1 miliwn ychwanegol i'w wario eleni, a £10 miliwn ychwanegol ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26, a fydd yn cynnwys ymyriadau i gefnogi dysgwyr sy'n cael trafferthion. Bydd rhan o'r cyllid hwn hefyd yn cael ei defnyddio i sicrhau bod gennym y ddealltwriaeth orau bosibl o gyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr.
Er mwyn cefnogi'r uchelgais hwn, rwy'n awyddus i feincnodi ein cynnydd yn rhyngwladol. Felly, rwyf wedi penderfynu y bydd Cymru yn cymryd rhan mewn asesiadau rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr blwyddyn 5. Bydd cymryd rhan yn astudiaethau PIRLS (Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) a TIMSS (Astudiaeth o'r Tueddiadau Rhyngwladol mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth) yn rhoi rhagor o wybodaeth inni am gynnydd dysgwyr iau. Caiff y ddwy astudiaeth eu datblygu gan Gymdeithas Ryngwladol Gwerthuso Cyflawniad Addysgol (IEA).
Rwy'n falch o gyhoeddi mai CCC Pearson sydd wedi cael ei benodi’n Ganolfan Genedlaethol i gynnal PIRLS 2026 yng Nghymru, yn dilyn proses dendro gystadleuol. Caiff yr astudiaeth TIMSS nesaf ei chynnal yn 2027. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y broses dendro honno unwaith y bydd wedi'i chwblhau.
Yn unol â’r trefniant hwn, bydd Cymru yn cymryd rhan yn asesiadau rhyngwladol PISA ar gyfer dysgwyr 15 oed eto yr hydref hwn. Ar hyn o bryd mae ysgolion yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn asesiadau PISA, ac mae'n hanfodol bod y rhai y gofynnir iddynt gymryd rhan yn cytuno i wneud hynny. Fel PISA, bydd TIMSS a PIRLS yn defnyddio sampl o ysgolion ar sail wirfoddol.
Rwyf am fod yn glir nad yw hyn yn gyfystyr â dychwelyd i ryw ffurf ar atebolrwydd risg uchel. Yn hytrach, mae’n gyfle i gofnodi data a gwybodaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn ein helpu i gyd i sbarduno gwelliant gyda’n gilydd. Gall rhieni olrhain cynnydd eu plant, a chael adborth unigol drwy'r Asesiadau Personol blynyddol.
Drwy'r cyfuniad hwn o PISA, TIMSS, PIRLS, canlyniadau cymwysterau, gwaith gwerthuso, a dull diwygiedig o adrodd ar Asesiadau Personol Ar-lein, rydym yn adeiladu sylfaen dystiolaeth genedlaethol gadarn sy'n cwmpasu ystod o grwpiau oedran a sgiliau, gan ein helpu i ddeall a gwerthuso ein cynnydd o ran sicrhau gwell safonau yn gyson mewn addysg.