Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Un o flaenoriaethau ein Llywodraeth yw gwelliant parhaus mewn safonau addysg. Rydym yn buddsoddi £10 miliwn yn ychwanegol mewn llythrennedd a rhifedd ar gyfer 2025/26 i gefnogi ymyriadau wedi'u targedu ar gyfer dysgwyr sydd eu hangen fwyaf, ac i gryfhau ein dealltwriaeth o gyrhaeddiad a dilyniant ar draws y system.
I gefnogi'r uchelgais hwn, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Cymru'n cymryd rhan mewn asesiadau rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 5. Bydd cymryd rhan yn astudiaethau PIRLS (Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) a TIMSS (Astudiaeth o’r Tueddiadau Rhyngwladol mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth) yn rhoi rhagor o wybodaeth inni am gynnydd dysgwyr iau. Caiff y ddwy astudiaeth eu datblygu gan Gymdeithas Ryngwladol Gwerthuso Cyflawniad Addysgol.
Rwy'n falch bod Pearson Plc wedi cael ei benodi'n Ganolfan Genedlaethol i weinyddu TIMSS 2027 yng Nghymru, yn dilyn proses dendro gystadleuol. Mae'r penodiad hwn yn gam pwysig yn ein hymrwymiad i gasglu data o ansawdd uchel ar ganlyniadau dysgwyr mewn mathemateg a gwyddoniaeth ar lefel gynradd. Mae Pearson hefyd yn gweinyddu PIRLS 2026 yng Nghymru, ac maent bellach yn recriwtio ysgolion ar gyfer asesiadau llythrennedd 2026.
Yn unol â'r trefniant hwn, mae Cymru wrthi’n cymryd rhan yn asesiadau rhyngwladol PISA ar gyfer pobl ifanc 15 oed. Mae ysgolion wedi bod yn gweinyddu'r profion ers canol mis Medi, a hoffwn estyn fy niolch diffuant i ddisgyblion, staff ac ysgolion am eu hymrwymiad parhaus i gymryd rhan yn yr asesiadau. Fel PISA, bydd TIMSS a PIRLS yn defnyddio sampl o ysgolion ar sail wirfoddol.
Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid yw hyn gyfystyr â dychwelyd i ryw ffurf ar atebolrwydd risg uchel. Yn hytrach, mae’n gyfle i gofnodi data a gwybodaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn ein helpu ni i gyd i sbarduno gwelliant gyda'n gilydd. Gall rhieni olrhain cynnydd eu plentyn a chael adborth unigol trwy'r Asesiadau Personol blynyddol.
Drwy'r cyfuniad hwn o PISA, TIMSS, PIRLS, canlyniadau cymwysterau, gwaith gwerthuso, a dull diwygiedig o adrodd ar Asesiadau Personol, rydym yn adeiladu sylfaen dystiolaeth genedlaethol gadarn sy'n cwmpasu ystod o grwpiau oedran a sgiliau, a fydd yn ein helpu i ddeall a gwerthuso ein cynnydd o ran sicrhau gwell safonau yn gyson mewn addysg.
