Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gael rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch darparu safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr a dyrannu Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith hwn. Diben y Datganiad Ysgrifenedig hwn yw nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn a’n cynlluniau.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol ddarparu asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr ac i adrodd ar yr angen am leiniau ychwanegol i Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal, boed hynny’n leiniau preswyl parhaol ac yn leiniau tramwy dros dro.

Rwy’n ymwybodol, er bod cynnydd da wedi ei wneud pan gyflwynwyd y Ddeddf, nad yw’r cynnydd hwnnw wedi cael ei gynnal yn ddiweddar ym mhob rhan o Gymru. Er  cyflwyno’r ddeddfwriaeth a rhoi cyllid sylweddol i fynd i’r afael â’r angen, rwy’n pryderu bod rhai cynlluniau wedi arafu am sawl blwyddyn am ba reswm bynnag, ac nid oes cynnydd digonol wedi digwydd i ymdrin ag anghenion y cymunedau hyn o ran safleoedd.

Rwy’n deall bod cynigion am safleoedd newydd, ac am welliannau hyd yn oed, yn gallu bod yn gymhleth a bod angen trafodaeth â’r gymuned, a bod penderfyniadau weithiau’n destun her. Mae hyn yn golygu nad oes modd gweld ffrwyth llafur yn gyflym ac y gallai cynnig fod yn cael ei ddatblygu am beth amser cyn i gais gael ei wneud am grant.

Fodd bynnag, er gwaetha’r heriau hynny, rwy’n disgwyl i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru sicrhau bod safleoedd a llieiniau digonol yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion cymunedau Sipsiwn ledled Cymru. Rwy’n disgwyl gweld asesiadau cywir o anghenion a chamau gweithredu clir ynghylch sut i ddiwallu’r anghenion hynny er mwyn ymdrin â’r bylchau sy’n bodoli. Mae’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer safleoedd parhaol a thramwy yn  bell o fod yn ddigonol i ateb y gofynion ac ni all hyn barhau.

Rydym yn adolygu gwytnwch yr asesiadau ar draws Cymru i fodloni’r gofynion o ran safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae fy swyddogion yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i weld maint yr anghenion ac er mwyn deall yr hyn sy’n dal i rwystro cynnydd.

Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddaf yn cynnal cyfarfodydd ag Awdurdodau Lleol i adolygu eu hasesiadau o anghenion llety sipsiwn a theithwyr a deall y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn. Byddaf yn edrych ar y camau sydd angen eu cymryd i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n parhau i fodoli, ac yn gofyn am sicrwydd o’u hymrwymiad i sicrhau darpariaeth ddigonol o safleoedd parhaol a thramwy ledled Cymru i fodloni anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rwyf hefyd yn bwriadu defnyddio’r cyfle hwn i’w hatgoffa am grant Llywodraeth Cymru, sy’n arf pwysig ar gyfer parhau’r gwaith o wella safleoedd a chreu rhai newydd.