Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae rhaglen ‘Cynefin’ bellach yn ei hail flwyddyn a dyma gyfle i sôn am lwyddiant ei blwyddyn gyntaf.  Mae Cynefin yn defnyddio sgiliau Cydlynwyr Lle lleol i helpu i wella ansawdd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru trwy drechu tlodi, datblygu cydnerthedd, gwella sgiliau a chreu cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd.  Cost y contract rheoli a chyflogi’r naw Cydlynydd Lle yw £575,534 y flwyddyn.  


Y newid mawr rhwng Cynefin a rhaglenni traddodiadol yw nad oes gan y Cydlynwyr Lle gyllideb.  Yn hytrach, maen nhw’n gweithio i feithrin cysylltiadau cynhyrchiol ac i helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng cymunedau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu iddynt.  Mae Cynefin yn rhoi pŵer i gymunedau i fod yn gyfrifol am greu eu newid positif eu hunain. 


Yn ôl rhanddeiliaid lleol a chymunedau, mae Cynefin yn ychwanegu at werth y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ac mewn rhai ardaloedd, mae Cynefin wedi galluogi cymunedau i ddylanwadu ar benderfyniadau gwario a gwaith awdurdodau lleol. 
Mae gwaith Cydlynwyr Lle yn ymdrin ag amrywiaeth eang o feysydd polisi yn fy mhortffolio.  Yn Llanelli, mae’r Cydlynwyr Lle wedi cydweithio â’r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddylunio cynllun argyfwng cynhwysfawr a hyfforddiant ar gyfer ymateb mewn argyfwng. Yng Nghasnewydd, mae’r Cydlynwyr Lle wedi annog trafod rhwng grwpiau anodd eu cyrraedd, fel y Rhwydwaith Menywod Asiaidd a NEST.  O ganlyniad, mae teuluoedd y bu’n anodd cael gafael arnyn nhw bellach wedi cael cyngor a chyfarpar arbed ynni. 


Mae llawer o weithgareddau Cynefin yn cynnwys elfen o hyfforddiant a meithrin sgiliau. Yn wir, mae dros 100 o bobl wedi derbyn rhyw fath o hyfforddiant erbyn hyn.  Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae trigolion ystad Fairyland wedi cael hyfforddiant Caru Bwyd Casáu Gwastraff ac wedi cael cynnig cyrsiau coginio sylfaenol. Mae cyrsiau ar gynnal a chadw coedlannau a glannau afonydd, asesu glendid strydoedd, diogelwch tân, trefnu digwyddiadau a bancio amser i gyd wedi’u cynnal yn ardaloedd peilot Cynefin. 
Mae nifer o fentrau cymdeithasol wedi cael eu helpu i fod yn ariannol hyfyw ac mae rhai mentrau cymdeithasol newydd wedi’u creu.  Er enghraifft, ym Mharc Caia, mae Cydlynydd Lle Wrecsam wedi helpu nifer o fentrau cymdeithasol oedd â’u dyfodol yn y fantol i fod yn hunangynhaliol. 


Gyda chymorth Cydlynwyr Lle, mae grwpiau cymunedol wedi sicrhau gwerth mwy na £100,000 o grantiau trwy’r Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ynni’r Fro, Cadwch Gymru’n Daclus a Coed Cadw, ac mae dros 100 o gysylltiadau newydd wedi’u creu rhwng cymunedau a darparwyr gwasanaethau. Mae’r arian a’r cysylltiadau hyn wedi’i gwneud yn bosibl i gymunedau wneud gwahaniaeth go iawn i’r lleoedd y maen nhw’n byw.


Yn Wrecsam, mae Cynefin wedi cefnogi sefydlu Grŵp Ynni Wrecsam a’u cysylltu ag Ynni’r Fro sydd wedi’i helpu i gael at gymorth a chyllid i asesu ymarferoldeb cynlluniau trydan dŵr ledled y sir.  Mae’r grŵp yn cynnal diwrnod agored yn Nyffryn Ceiriog i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael i’r gymuned leol gyfrannu at ddatblygu’r prosiect.


Yn Rhondda Fawr, mae’r Cydlynydd Lle wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a phartneriaid lleol i ddatblygu cynllun busnes i ddefnyddio coed llarwydd sydd â’r clefyd phytopthera arnyn nhw fel tanwydd biomas ar gyfer y farchnad leol.  Mae’r clefyd yn gyffredin ym Mlaenau Rhondda. Mae’r cynnig diweddaraf ar gyfer safle ynni dŵr bychan yng nghoetir y gymuned yn cael ei gynnwys yn y cynlluniau busnes fel ffynhonnell ynni bosibl ar gyfer prosesu’r pren sydd wedi’i dorri.


Mae Cynefin yn meithrin cysylltiadau defnyddiol ag arweinwyr polisi a phartneriaid allweddol mewn nifer o feysydd portffolio gan gynnwys iechyd, cymunedau a llywodraeth leol, cynllunio, addysg a diwylliant, treftadaeth a chwaraeon.  Mae’r Cydlynwyr Lle wedi cyfrannu hefyd at waith y Byrddau Gwasanaethau Lleol a chynlluniau cyflenwi ar gyfer Cynlluniau Integredig yr awdurdodau lleol.


Mae Brook Lyndhurst wrthi’n adolygu gwaith Cynefin trwy waith ymchwil a chan ddefnyddio data dangosyddion trawsbynciol.


Mae’r data cychwynnol yn cynnig syniad o’r canlyniadau hyd yma: mae rhyw 1,000 o gyrff ac unigolion eisoes yn cymryd rhan weithgar mewn gwaith sy’n gysylltiedig â Cynefin, ac mae’r Cydlynwyr Lle wedi creu 40 o weithgorau.  Gyda’i gilydd, mae’r gweithgorau hyn wedi creu dros 70 o gynlluniau cyflenwi lleol; rhai ar gyfer lleoedd penodol, eraill ar gyfer tasgau neu brosiectau penodol.  Mae rhyw 6,000 o oriau wedi’u rhoi gan y cyhoedd, cyrff a mudiadau preifat a gwirfoddol yn ogystal â chan drigolion lleol a grwpiau cymunedol. 
Ym mis Rhagfyr, cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd y byddai’r Cydlynwyr Lle yn cael parhau i weithio yn eu cymunedau tan fis Mawrth 2016.  Gan y bu cymaint o diddordeb yn y ffordd y mae Cynefin yn gwneud pethau, gofynnwyd i’m swyddogion ehangu Cynefin i gynnwys dwy ardal ychwanegol.  Disgwylir i’r cynnydd hwn ychwanegu rhyw £120,000 at gost flynyddol Cynefin. Gallaf gadarnhau yn awr mai’r ardaloedd ychwanegol hynny yw Llandrindod a Thredegar. 


Mae Llandrindod yn wynebu amrywiaeth o heriau gan gynnwys llawer o bobl yn dioddef tlodi tanwydd a lefelau uchel o ddiweithdra.  Mae tlodi gwledig hefyd yn broblem, ac yn fy marn i, mae cyflogi Cydlynydd Lle yn ffordd effeithiol o gysylltu Cynefin â’r Rhaglen Datblygu Gwledig, Bil yr Amgylchedd ac adolygiad Glastir, gan ddod â gwelliannau mawr i ansawdd bywyd teuluoedd cefn gwlad. 


Cafodd Tredegar ei ddewis oherwydd yr ystod eang o anghydraddoldebau cymdeithasol –economaidd ac amgylcheddol a geir yno, a bod gennym gyfle yn awr i adeiladu ar yr astudiaeth fanwl ddiweddar o Dredegar a gynhaliwyd gan CREW.  Lansiwyd y canfyddiadau ar 28 Ebrill.  Bydd y Cydlynydd Lle yn gallu helpu i roi’r 17 o argymhellion a gafwyd yn yr astudiaeth ar waith a sicrhau canlyniadau gweladwy sy’n seiliedig ar yr ymchwil honno. 


Rydym yn rhagweld y bydd y Cydlynwyr Lle newydd hyn wedi’u penodi erbyn yr hydref.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau.  Os carai aelodau imi wneud datganiad pellach neu i ateb cwestiynau amdano wedi i’r Cynulliad ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.