Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynghorwyr arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i’r Gweinidogion. Ar yr un pryd maent yn atgyfnerthu amhleidioldeb gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol trwy fod yn ffynhonnell ar wahân o gyngor a chymorth gwleidyddol.  

Maent yn cael eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu’r Gweinidogion ar faterion lle mae gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth yn gorgyffwrdd a lle y byddai'n amhriodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent hefyd yn adnodd ychwanegol ar gyfer y Gweinidog gan ddarparu cymorth o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i’r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i’r Gweinidog.  

Roedd 10 o gynghorwyr arbennig yn eu swyddi am y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2017/18, fel y nodir yn y tabl isod

Cynghorydd Arbennig (Band Cyflog)

Matt Greenough (BC3)
Alex Rawlin (BC2)
Andrew Johnson (BC2)
Jane Runeckles (BC2)*
Gareth Williams (BC3)*
David Costa (BC2)
Tom Woodward (BC2)
Huw Price (BC2)
Madeleine Brindley (BC2)
Kate Edmunds (BC2)**
  

* Rhan-amser
** Cyflogaeth wedi cychwyn ar 16/10/17

Cyfanswm y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 oedd £674,543. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr.

Bandiau cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2017-18

Roedd bandiau cyflog ac ystodau cyflog cynghorwyr arbennig ar gyfer 2017-18 fel a ganlyn:

  • Band Cyflog 2 £53,000 – £69,999
  • Band Cyflog 3 £70,000 – £94,999

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.