Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i Weinidogion, gan atgyfnerthu didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy wahaniaethu y ffynhonnell o gyngor a chymorth gwleidyddol.
Cân eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion ar faterion lle ceir gorgyffwrdd rhwng gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth, lle byddai’n amhriodol i weision sifil parhaol ymwneud â gwaith o’r fath. Maent yn adnodd ychwanegol i’r Gweinidog, gan roi cymorth o safbwynt sydd â mwy o ymrwymiad ac ymwybyddiaeth wleidyddol nag y byddai ar gael i Weinidog gan y Gwasanaeth Sifil parhaol. 

Roedd 10 o Gynghorwyr Arbennig yn eu swyddi drwy gydol blwyddyn ariannol 2014/15 neu am ran o’r flwyddyn, fel y nodir yn y tabl isod:

Cynghorydd Arbennig / Band Cyflog
Andrew Bold / 2
Madeleine Brindley /  1
David Costa * /  1
Matt Greenough /  1
Andrew Johnson / 1
Steve Jones*** / 2
Jo Kiernan / 2
Andrew Pithouse** /  2
Alex Rawlin / 1
Chris Roberts /  1
  * ar secondiad yn cychwyn 17/11/14
  ** ar secondiad a rhan amser
  *** gadawodd 15/9/14
 

Cyfanswm y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015 oedd £626,995. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfaniadau yswiriant gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn. Ni wnaed unrhyw daliadau diswyddo.


Bandiau Cyflog y Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2014-15

Roedd bandiau cyflog ac ystodau cyflog y cynghorwyr arbennig ar gyfer 2014-15 fel a ganlyn:

Band Cyflog 1 £40,352 – £54,121
Band Cyflog 2 £52,215 – £69,266