Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Yn unol ag Adran 16 y Ddeddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol a’r Cod Gweinidogol, yr wybodaeth ganlynol yw’r adroddiad blynyddol am gynghorwyr arbennig yn gwasanaethu Llywodraeth Cymru.  
Mae cynghorwyr arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i Weinidogion tra’n cadarnhau didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy wahaniaethu ffynhonnell y cyngor a’r cymorth gwleidyddol.  
Cânt eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion ar faterion ble y byddai gwaith y Llywodraeth a gwaith y Blaid sy’n Llywodraethu yn gorgyffwrdd a ble y byddai’n amhriodol i weision sifil parhaol ymwneud â’r mater.  Maent yn adnodd ychwanegol i’r Gweinidog gan roi cymorth o safbwynt mwy gwleidyddol a mwy ymwybodol yn wleidyddol nag a fyddai ar gael i Weinidog gan y Gwasanaeth Sifil parhaol.  
Mae enwau’r cynghorwyr arbennig sydd wedi bod yn eu swyddi ers 1 Ebrill 2011 wedi’u rhestru isod.    
Mae’r rhestr yn cynnwys cynghorwyr arbennig a ddaeth i ddiwedd eu cyfnod o gyflogaeth yn ystod y flwyddyn.  

  • Andrew Bold - 1/4/2011 (wedi ymddiswyddo i weithio ar ymgyrch etholiadol), 16/5/2011 – cyfnod presennol
  • Ian Butler* - 1/4/2011 – 6/5/2011
  • Jonathan Davies* - 4/7/2011 – cyfnod presennol
  • Matt Greenough* - 27/6/2011 – cyfnod presennol
  • Sophie Howe* - 1/4/2011 – 6/5/2011, 3/1/2012 – cyfnod presennol
  • Steve Jones - 1/4/2011 (wedi ymddiswyddo i weithio ar ymgyrch etholiadol), 16/5/2011 – cyfnod presennol
  • Jo Kiernan - 1/4/2011 – 6/5/2011, 9/5/2011 – cyfnod presennol
  • Anna Nicholl -  1/4/2011 – 6/5/2011
  • Rhuanedd Richards - 1/4/2011 – wedi ymddeol i weithio ar ymgyrch etholiadol
  • Chris Roberts* - 1/4/2011 – wedi ymddeol i weithio ar ymgyrch etholiadol, 23/5/2011 – cyfnod presennol
  • Steve Thomas - 1/4/2011 – 12/4/2011
*yn gweithio’n rhan amser


Daw contractau Cynghorwyr Arbennig i ben naill ai pan fydd y Prif Weinidog yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog, neu ar ddiwedd y dydd wedi diwrnod pleidleisio’r etholiad cyffredinol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  O dan drefniadau contract presennol, mae gan Gynghorwyr Arbennig hawl i daliadau diswyddo mewn amgylchiadau o’r fath.  Felly hefyd, os bydd Cynghorydd Arbennig yn ymddiswyddo wedi cyhoeddi etholiad cyffredinol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae ymrwymiad o dan gontract i dalu tâl ymddiswyddo iddo.  Os caiff Cynghorydd Arbenig ei ailethol wedi’r etholiad, mae disgwyl i’r unigolyn ad-dalu unrhyw ran o’r tâl ymddiswyddo sy’n gorgyffwrdd â’r cyfnod y cânt eu hailgyflogi fel Cynghorydd Arbennig.  

Roedd cyfanswm cost cyflogau, gan gynnwys taliadau diswyddo ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2011 i’r 31 Mawrth 2012 yn £468,516.99, a £67,121.80 ohono yn daliadau diswyddo.

Mae strwythur cyflog y cynghorwyr arbennig yn seiliedig ar fandiau eang syml.  Cafodd cynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru naill ai eu cyflogi neu fe ddaethant ar secondiad yn ystod y cyfnod uchod.  

Ceir rhestr isod o enwau’r Cynghorwyr Arbennig sydd yn eu swyddi ar 31 Mawrth 2012 a’u bandiau cyflog, yn ogystal ag ystod cyflog pob band cyflog ar gyfer 2011-12.

  • Jo Kiernan (Band Cyflog 2)

Cyfrifol am: Y Prif Weinidog, Yr Uned Gyflawni, Deddfwriaeth, Cysylltiadau Rhynglywodraethol, Cymru o Blaid Affrica, Cymru yn y Byd, Rhyddid Gwybodaeth a Darlledu


  • Andrew Bold (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ac Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd


  • Chris Roberts (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Thrafnidiaeth, a chydgysylltu gweithredu ar dlodi (ar draws portffolio)  


  • Sophie Howe (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Llywodraeth Leol a Chymunedau, Tai ac Adfywio, a Chydraddoldebau

  

  • Steve Jones (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Y Cyfryngau, cyfathrebu a busnes y Cynulliad


  • Matt Greenough (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg, Treftadaeth a Chwaraeon  


  • Jonathan Davies (Band Cyflog 1)

Cyfrifol am: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 


Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2011-12

Mae bandiau cyflog ac ystod cyflog cynghorwyr arbennig ar gyfer 2011-12 fel a ganlyn:  

  • Band Cyflog 1 - £40,352 – £54,121 
  • Band Cyflog 2 - £52,215 – £69,266

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.