Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.

Fe'u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a'r blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent yn adnodd arall i'r Gweinidog ac yn rhoi cefnogaeth a ddaw o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i'r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Weinidog.

Roedd 15 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2018/19, fel y nodir isod.

Cynghorydd Arbennig

Band Cyflog

David Costa (gadawodd ar 8/4/18)

PB2

Kate Edmunds (gadawodd ar 12/12/18)

PB2

Matt Greenough (gadawodd ar 12/12/18)

PB3

Rachel Maycock (gadawodd ar 12/12/18)

PB2

Huw Price (gadawodd ar 12/12/18)

PB2

Alex Rawlin (gadawodd ar 12/12/18)

PB2

Madeleine Brindley

PB2

Andrew Johnson

PB2

Jane Runeckles *

PB2/PB3

Gareth Williams **

PB3

Tom Woodward

PB2

David Davies **

PB1

Daniel Butler ** 

PB1

Paul Griffiths ** †

PB1

Clare Jenkins ** †

PB3

* PB2 rhan-amser hyd at 12/12/18; PB3 amser llawn hyd o 13/12/18

** Rhan-amser

† Dros dro

Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 yn £814,069. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogeion.

At hynny, pan ymddiswyddodd y cyn-Brif Weinidog cafodd contractau pob Cynghorydd Arbennig eu dirwyn i ben a gwnaed taliadau diswyddo o £259,988, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Caiff taliadau diswyddo eu hadfer oddi wrth Gynghorwyr Arbennig a ail-benodir gan y Prif Weinidog newydd, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Roedd cyfanswm y taliadau adferadwy yn £140,352.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2018-19

Roedd y bandiau cyflogau ac ystod cyflogau ar gyfer Cynghorwyr Arbennig yn 2018-19 fel a ganlyn:

  • PB1 - hyd at £52,999
  • PB2 - £53,000 - £69,999
  • PB3 - £70,000 - £94,999