Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.

Fe'u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a'r blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent yn adnodd arall i'r Gweinidog ac yn rhoi cefnogaeth a ddaw o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i'r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Weinidog.

Roedd 14 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21, sy'n cyfateb i 12 o gynghorwyr arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:

Cynghorydd arbennig

Band Cyflog

Clare Jenkins [1]

PB3

Jane Runeckles

PB3

Gareth Williams

PB3

Madeleine Brindley

PB2

Kate Edmunds

PB2

Andrew Johnson

PB2

Tom Woodward

PB2

Alex Bevan

PB1

Daniel Butler * 

PB1

Ian Butler *

PB1

Sara Faye [2]

PB1

Paul Griffiths *

PB1

Andy Pithouse *

PB1

Mitchell Theaker [3]

PB1

* Rhan-amser

Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 yn £1,100,923. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogeion.

[1] Secondai

[2] Rhan-amser hyd at 08/06/20. Amser llawn o 09/06/20

[3] Rhan-amser hyd at 30/09/20. Amser llawn o 01/10/20

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Yn y tabl uchod, mae cyflog pob Cynghorydd Arbennig Llywodraeth Cymru wedi ei bennu yn cyfateb i fand cyflog Cynghorydd Arbennig Llywodraeth y DU yn unol â’i gyflog presennol. Mae bandiau cyflogau diweddaraf Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth y DU fel a ganlyn:

PB1 - £40,500 - £60,500

PB2 - £57,000 - £80,000

PB3 - £73,000 - £102,000

PB4 - £96,000 - £145,000

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.