Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy ddangos bod cyngor a chymorth gwleidyddol yn dod o ffynhonnell wahanol.

Fe’u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a’r blaid sy’n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai’n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan.

Roedd 20 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o flwyddyn ariannol 2022/23, sy’n cyfateb i 14.6 o Gynghorwyr Arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:

Alex Bevan

Madeleine Brindley

Steffan Bryn

Daniel Butler **   

Ian Butler **

David Davies †

Kate Edmunds

Sara Faye

Clare Jenkins *

Owen John

Andrew Johnson (diwrnod gwasanaeth olaf 30/09/22)

Colin Nosworthy ** (diwrnod gwasanaeth olaf 22/04/22)

Andy Pithouse **

Jane Runeckles *

Mitchell Theaker

Tom Woodward

Emily Edwards** (penodwyd ar 27/04/22)

David Hooson (penodwyd ar 27/03/23)

Sam Hadley~ (penodwyd ar 10/10/22)

Phillipa Marsden (penodwyd ar 21/11/22)

* Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig

** Rhan-amser

† Cynghorydd Arbennig ar alwad, a delir â ffi

~ Secondai, a delir yn unol â band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig

Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn £1,441,134.14. Mae hyn yn cynnwys cyflogau a phob cyfraniad ychwanegol perthnasol.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig, a nodir isod:

Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £54,990 - £72,100

Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig: £73,000 - £81,600

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.