Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cod y Gweinidogion yn nodi'r hyn y mae Prif Weinidog Cymru yn ei ddisgwyl mewn perthynas â safonau ymddygiad Gweinidogol ac ymddygiad personol − mae'r cod yn gymwys hefyd i'r Prif Weinidog ei hun. Hyd yma, mae hynny wedi golygu nad oedd unrhyw gyfle i gynnal asesiad annibynnol pe bai pryderon sylweddol nad oedd y Prif Weinidog wedi cydymffurfio â Chod y Gweinidogion, heblaw am drefniadau'r Cynulliad ei hun o ran craffu ac o ran safonau, a'r broses etholiadol arferol.

Rwyf wedi gwrando ar y rheini sydd am weld proses gyfeirio annibynnol y gellir ei defnyddio o dan amgylchiadau lle y teimlir bod angen cyngor allanol ac annibynnol ar y Prif Weinidog.

Felly, aed ati i ddiwygio Cod y Gweinidogion fel y bo modd cyfeirio materion at Gynghorydd Annibynnol pan fo o'r farn bod angen gwneud hynny. Mae adran 1.4 o'r Cod yn darparu bellach y caiff y Prif Weinidog ofyn i Gynghorydd Annibynnol roi cyngor iddo a fydd yn sail i’w farn ynghylch unrhyw gamau sy’n angenrheidiol mewn perthynas ag ymddygiad y Gweinidogion. Mae’r Cod yn darparu hefyd y caiff canfyddiadau’r Cynghorydd eu cyhoeddi.

Nid yw'r Cod yn rhagnodi cwmpas na ffurf unrhyw ymchwiliad y gofynnir i'r Cynghorydd ymgymryd ag ef, nac ychwaith sut y dylai gynnal yr ymgynghoriad hwnnw. Mater i'r Cynghorydd yw penderfynu sut i weithredu ar faterion y cyfeirir ato gan y Prif Weinidog.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd panel ac arno nifer o Gynghorwyr â'r cymwysterau a'r profiad priodol yn cael ei benodi i ymgymryd â'r gwaith hwn yn unigol neu ar y cyd.

Mae James Hamilton, sy'n Gynghorydd Annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi cytuno y caf gyfeirio ato ar unwaith honiadau a wnaed yn ystod y bythefnos ddiwethaf imi dorri Cod y Gweinidogion.