Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ddydd Llun (16 Mawrth) fel rhan o Ddirprwyaeth Weinidogol y DU. Ymunais yn y cyfarfodydd briffio arferol gyda chydweithwyr cyn y cyfarfod Cyngor, gan nodi'r materion sy'n bwysig i Gymru. Roedd Gweinidog Defra, George Eustice AS a Gweinidog Materion Gwledig, Bwyd a'r Amgylchedd Llywodraeth yr Alban, Richard Lochhead MSP yn bresennol ar yr achlysur hwn.        

Cynhwysodd yr agenda i'w drafod gan Weinidogion Ffermio yn y Cyngor gweithredu a symleiddio y Polisi Amaethyddol Cyffredin; trafod y sefyllfa farchnad, tueddiadau a mesurau UE yn y sector llaeth; ac y Cynnig ar gyfer Rheoliad o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynhyrchu a labelu cynhyrchion organig.

Fel rhan o'r drafodaeth ar y mater o symleiddio PAC, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am weithredu a rheoli mewn dull mwy rhesymol, gyda'r nod o ysgafnhau'r baich ar y rhai sy'n hawlio ac yn gweinyddu. Rydym hefyd yn gofyn am hyblygrwydd ynghylch rhai darpariaethau gorfodol, megis galluogi Llywodraeth Cymru i newid lefelau isafswm taliadau ac lefelau capio, gosod uchafswm ewro ar werth hawliau a diwygio taliadau gwyrdd i annog mwy o ffermio âr yng Nghymru.

Rydym yn gobeithio gweld mwy o eglurder i’r Rheoliadau, gan fod modd dehongli sawl agwedd ohonynt mewn gwahanol ffyrdd. Rydym o blaid rhoi mwy o ryddid i Asiantaethau Talu ganfod camgymeriadau gweinyddol a gweithio gyda'r hawlydd i gywiro'r camgymeriadau didwyll fel rhan o'r broses ymgeisio.

Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos gyda Defra a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill i sicrhau bod prif ymateb ffurfiol y DU i'r Comisiynydd Hogan yn llwyr adlewyrchu anghenion a phryderon yr holl randdeiliaid amaethyddol yma yng Nghymru.

Mae Comisiynydd Hogan hefyd wedi cyhoeddi opsiwn i Aelod-Wladwriaethau i ddarparu estyniad i ffermwyr gyflwyno eu hawliadau am daliadau i 15 Fehefin. O ystyried y byddai estyniad o'r fath yn cael effaith arwyddocaol ar amseriad Colofn I a Cholofn II i'n ffermwyr, ar hyn o bryd rwy'n ystyried gyda'r diwydiant a yw opsiwn hwn yn werth gweithredu yng Nghymru

Ar fater arall, rydw i wrth fy modd bod y Comisiynydd Hogan wedi cytuno i ymweld â Chymru yn ystod y Sioe Frenhinol eleni. Bydd yn gweld â'i lygaid ei hun amaethyddiaeth, bwyd a'r amgylchedd yng Nghymru i'w gynnig. Manteisiais ar y cyfle yn y Cyngor i gael trafodaeth anffurfiol gyda Phil Hogan, Comisiynydd Ewropeaidd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig am y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Yn ystod fy ymweliad, cefais gyfle hefyd i gyfarfod uwch swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gyfrifol am wahanol agweddau o Ddiwygio'r PAC. Rwy'n falch iawn bod Pierre Bascou, y Cyfarwyddwr â chyfrifoldeb dros daliadau Colofn 1, yn bwriadu dod i wneud cyflwyniad ar ran y Comisiwn yn ein cynhadledd ffermio flynyddol ym mis Mehefin.

O ran y drafodaeth ar y sector llaeth, yn yr hinsawdd ryngwladol sydd ohoni, mae’n amlwg y gallwn ddisgwyl cyfnodau anwadal o hyd. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd adeiladu cadernid tymor hir i'n diwydiant llaeth yng Nghymru, a oedd un o'r prif ganlyniadau a gynlluniwyd gan yr adolygiad annibynnol o'r sector llaeth dan arweiniad Andy Richardson o Dasglu Llaeth Cymru. Cyhoeddais adroddiad Andy  ynghyd â ymateb Llywodraeth Cymru'n ar 24 Mawrth, a wnes i ddatganiad llafar i'r Cynulliad ar y mater hwn.

Ar ben hynny, rwy'n teimlo bod rhan allweddol gan Arsyllfa Marchnad Laeth Ewrop i'w chwarae - yn darparu data ar gyfer penderfyniadau busnes a chynllunio, a thynnu sylw at anawsterau sydd ar y gorwel. Rhaid i ni chwilio am ffyrdd o adeiladu ar ei llwyddiant cychwynnol ac edrych ar y potensial i'w defnyddio fel sylfaen ar gyfer marchnad ariannol a all roi sefydlogrwydd i brisiau llaeth.

Trafododd y Cyngor Amaethyddiaeth gynigion i wella'r Rheoliad newydd y Cyngor ar organig. Roeddwn yn falch bod llawer o'r materion y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud am symleiddio ac ymarferol wedi cael sylw. Mae blaenoriaethau y Llywodraeth Cymru wedi cynnwys sicrhau bod ffermwyr yn gallu gadael Glastir Organig heb gosb os ydynt yn dewis gwneud hynny o ganlyniad i'r Rheoliad newydd, a chaniatáu ffermio organig ac anorganig i weithredu ar ddaliad sengl - er enghraifft , yn rhedeg fferm laeth organig ochr yn ochr â buches eidion heb fod yn organig. Cefnogais ymdrechion y DU i barhau i sicrhau bod y Rheoliad drafft yn cael ei hogi fel ei fod yn cefnogi datblygiad y sector organig.

Ar fater arall, roeddwn yn siomedig o weld bod mater y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd (TTIP) wedi'i dynnu o agenda'r Cyngor Ewropeaidd a'i drafod yn breifat yn lle hynny. Rwy'n annog y Cyngor a'r Comisiwn i fod yn fwy tryloyw mewn trafodaethau am y TTIP yn y dyfodol.

Gwnes i nodi i fy nghyd-Weinidogion fod  TTIP a thrafodaethau masnach eraill yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i sectorau amaeth, bwyd a diod Cymru, ac rwyf yn ceisio sicrhau gan Lywodraeth y DU na fydd unrhyw gytundeb sy'n cael ei drafod yn gostwng lefelau safonau bwyd, iechyd, yr amgylchedd na llafur yng Nghymru ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn lleihau gwerth ein Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig a statws Enw Bwyd Gwarchodedig.