Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn bresennol yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn Luxembourg ddydd Llun 20 Ebrill, fel rhan o Ddirprwyaeth Gweinidogol y DU.  Bum yn rhan o'r cyfarfodydd briffio arferol cyn y Cyngor, ble y rhoddais amlinelliad o'r hyn sy'n bwysig i Gymru.  Y tro hwn, roedd Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Defra dros yr Amgylchedd Naturiol a Gwyddoniaeth, yr Arglwydd de Mauley, a Richard Lochhead MSA, Gweinidog Materion Gwledig, Bwyd a'r Amgylchedd Senedd yr Alban yn bresennol.  

Roedd yr agenda ar gyfer y Gweinidogion Ffermio yn cynnwys cynnig am Reoliad yn Senedd Ewrop i'r Cyngor sefydlu cynllun amlflwydd ar gyfer stociau penfras, penwaig a chorbennog ym Môr y Baltig a'r pysgodfeydd sy'n defnyddio'r stociau hynny.  Er nad oes gennym fuddiant uniongyrchol yn y pysgodfeydd hyn, mae'n fater pwysig gan ei fod yn debygol y bydd yn y cynllun amlflwydd cyntaf i gael ei gymeradwyo i reoli pysgota ers i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ddod i rym yn 2014, ac efallai y bydd yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer cynlluniau'r dyfodol.  

Cafodd y Gweinidogion eu briffio gan y Comisiwn ar sefyllfa'r ddau adroddiad sy'n delio â'r dangosyddion gorfodol o wlad tarddiad neu ardal cynnyrch sy'n cynnwys llaeth a chynnyrch llaeth, a mathau penodol o gig.  Ond yr un yw barn Llywodraeth Cymru, ein bod yn cefnogi'r egwyddorion yn gyffredinol, ond bod yn rhaid eu rhoi ar waith mewn ffordd uniongyrchol, heb fod yn rhy feichus i'n busnesau yn y sector bwyd.  

Bu i'r Cyngor fabwysiadu casgliadau o ran safbwynt yr UE a'i Haelod Wladwriaethau yn 11eg sesiwn Fforwm y Cenhedloedd  Unedig ar Fforestydd, fydd yn digwydd yn Efrog Newydd ar y 4-15 Mai.  Mae'r casgliadau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli fforestydd yn gynaliadwy a'u swyddogaethau niferus o ran mynd i'r afael â heriau mawr megis y newid yn yr hinsawdd ac mae'n cyd-fynd yn dda â strategaeth coetiroedd Llywodraeth Cymru, 'Coetiroedd i Gymru'.    

Cyflwynodd y Comisiwn offeryn gwarantu enghreifftiol ar gyfer amaethyddiaeth wedi'i baratoi ar y cyd â'r Banc Buddsoddi Ewropeaidd (EIB).  Mae'r offeryn yn anelu at ei gwneud yn haws i ffermwyr a busnesau gwledig gael mynediad i gredyd.  Dywedais wrth y Gweinidogion fod gennym enghreifftiau eisoes o offerynnau ariannol sy'n cael eu defnyddio at y diben hwnnw yng Nghymru, ac y gallai'r cynnig newydd hwn fod o fudd yn arbennig i ffermwyr ifanc a ffermwyr sy'n denantiaid.  

Yn ystod fy ymweliad, cefais gyfarfod cynhyrchiol hefyd â Mihail Dumitru, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y CE (DG AGRI).  Edrychwyd ar y posibilrwydd o ddefnyddio'r cymorth ariannol gan yr EC-EIB trwy ddefnyddio offerynau ariannol yn ein Cynllun Datblygu Gwledig.  Mae rhanddeiliaid o Gymru wedi ymateb yn bositif i'r cynnig i gyfuno offerynnau ariannol gyda grantiau traddodiadol, ac mae DG AGRI a'r EIB wedi cytuno i roi cymorth technegol a chyngor ariannol inni.  

Roedd rhan fwyaf o'm cyfarfod gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yn delio â datblygiad Cynllun Datblygu Gwledig Cymru.  Roeddwn yn falch o nodi bod trafodaethau ffurfiol bellach wedi dod i ben, ac mae'n Cynllun Datblygu Gwleidg yng ngofal gwasanaethau cyfreithiol y Comisiwn ar hyn o bryd.  Roedd y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yn canmol ein Cynllun Datblygu Gwledig, a'r ffordd bositif yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gweithio â'r Comisiwn drwy gydol y broses gymeradwyo.  Cafwyd cadarnhâd ganddo yn y cyfarfod y gallem ddisgwyl cymeradwyaeth anffurfiol yn fuan iawn (ac rydym wedi derbyn hyn bellach), a mabwysiadu'r Cynllun yn ffurfiol yn y dyfodol agos.  

Ddydd Mawrth 21 Ebrill, roeddwn yn bresennol yn yr EXPO Bwyd Môr Rhyngwladol ym Mrwsel.  Dyma'r digwyddiad masnachol mwyaf yn y byd ar gyfer bwyd môr, gan ddenu dros 25,800 o brynwyr a chyflenwyr o dros 150 o wledydd.  Rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth i wyth o gwmnïau o Gymru i fod yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru.  Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun uchelgeisiol i ddatblygu'r sector bwyd a diod 30% erbyn 2020, sef gwerth £7 biliwn.  Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau masnach o'r fath yn ffordd bwysig o gyrraedd y targed hwnnw, a chyhoeddais yn ddiweddar becyn cymorth gwerth £2.5 miliwn i helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i fod yn bresennol mewn disgwyddiadau ym Mhrydain a thramor yn y dyfodol.  

Roeddwn yn falch o gynnal derbyniad ar ein stondin Bwyd a Diod Cymru, ble yr oedd yn bosib inni arddangos cynnyrch Cymru i westeion, gan gynnwys Llysgennad Prydain i Wlad Belg, Alison Rose, prynwyr rhyngwladol, a'r cyfryngau.   

Yn ystod fy ymweliad â Brwsel, bu imi gyfarfod â Derek Vaughan ASE, ble y cawsom drafodaeth ar agweddau ar y Polisi Amaethyddol Cyffredinol a chymorth i'r diwydiant llaeth.   Bu inni hefyd drafod ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu allforio Cig Oen o Gymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig i Norwy, a swyddogaeth y Senedd Ewropeaidd o ran sicrhau bod yn cwotâu angenrheidiol wedi'u sefydlu i alluogi hynny.