Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gam nesaf y cymorth statudol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Ar ôl i'r Cynghorydd Kevin O’Neill, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wneud cais am gymorth statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, penodwyd cynghorydd allanol, John Gilbert, i gynnal asesiad annibynnol trylwyr o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r Cyngor ac o'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol.

Erbyn hyn, mae John Gilbert wedi cwblhau ei asesiad ac mae’r adroddiad, Yr Heriau Allweddol, y Capasiti a'r Gallu i Arwain, Llywodraethiant a Strategaeth, i’w weld yn yr atodiad. 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor ar hyn o bryd. Er eu bod yn sylweddol, nid ydynt yn anorchfygol, ac rwyf yn credu y bydd modd mynd i’r afael â nhw o gael pecyn priodol arall o gymorth statudol. Wedi dweud hynny, ni fydd cymorth allanol yn ddigon ynddo'i hun i oresgyn yr heriau hyn. Bydd yn rhaid wrth ymrwymiad ar ran yr holl aelodau i greu dyfodol cynaliadwy i’r Cyngor, a rhaid iddynt ddangos hynny drwy weithio mewn ffordd benderfynol ac adeiladol.

Nid yw adroddiad John Gilbert yn rhoi'r atebion. Yn lle hynny, dylai'r Cyngor ei ddefnyddio'n blatfform ar gyfer nodi ffordd glir ymlaen, datblygu cynllun cadarn ac yna cymryd y camau i sicrhau newid.

Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a'r Prif Weithredwr Dros Dro i drafod yr adroddiad, ac roeddwn yn falch o weld ymrwymiad ac awydd y Cynghorydd Kevin O'Neill i ymateb i ganfyddiadau John Gilbert, a hefyd ei asesiad gonest o sefyllfa bresennol y Cyngor. Mae wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad a gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i'w helpu i wneud hynny.

Rwyf wedi cytuno â'r Cynghorydd O'Neill i sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd (y Bwrdd), a fi fydd yn penodi’r aelodau annibynnol, gan gynnwys y Cadeirydd. Diben cyffredinol a chylch gwaith y Bwrdd newydd fydd cynorthwyo'r Arweinydd i sbarduno'r newid a'r gwelliant y mae eu hangen ar y Cyngor.

Bydd y Bwrdd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a chynrychiolwyr o'r gwrthbleidiau, ynghyd ag aelodau allanol annibynnol. Rwyf yn falch o gael penodi Steve Thomas, cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Gadeirydd annibynnol. Bydd yr unigolion a ganlyn yn cael eu penodi hefyd i gynnig arbenigedd penodol i'r bwrdd:

  • Christine Salter (cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau (A.151 a swyddog canlyniadau), Cyngor Caerdydd),
  • Chris Burns (cyn Brif Weithredwr Interim, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chyn Brif Weithredwr Cynorthwyol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin) a
  • Tony Garthwaite (cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Rwyf yn disgwyl i'r Bwrdd gyfarfod am y tro cyntaf yn gynnar ym mis Tachwedd.

Byddaf hefyd yn darparu pecyn cymorth arall a fydd yn canolbwyntio ar:

  • Cymorth a hyfforddiant i'r aelodau a fydd yn cynnwys hyfforddiant pwrpasol a manwl ar gyfer pob cynghorydd. Bydd y pwyslais ar ddatblygu a chryfhau'r berthynas waith rhwng aelodau o bob grŵp gwleidyddol; a hefyd rhwng Aelodau a swyddogion.
  • Cymorth tymor byr, wedi'i thargedu ar Lywodraethu, Materion Corfforaethol a Gwasanaethau. Mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn fater i'r Cyngor fwrw ymlaen â nhw. Mae'r Cyngor eisoes wedi datblygu cynllun gwella ac iddo ffocws penodol, a bydd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd, sydd newydd gael ei sefydlu, yn monitro'r cynnydd a wneir gan y Cyngor wrth iddo fynd ati i weithredu'r cynllun hwnnw. Wedi dweud hynny, rwyf yn sylweddol ei bod yn debygol y bydd angen capasiti ac arbenigedd ychwanegol ar y Cyngor er mwyn rhoi'r cynllun ar waith mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy. O'r herwydd, yn amodol ar ragor o ymgynghori â'r Cyngor, bydd cynghorwyr allanol yn cael eu penodi i gynorthwyo ac i alluogi'r Cyngor i fynd i'r afael cyn gynted ag y bod modd â'r heriau sy'n ei wynebu. Bydd cymorth Mentora a Choetsio yn cael ei roi i'r Arweinydd ac i'r Prif Weithredwr Dros Dro hefyd i'w helpu i fwrw ymlaen â'r agenda heriol hon. 

Fy mwriad cyffredinol wrth ddarparu pecyn arall o gymorth statudol yw sicrhau y bydd y Cyngor yn gallu gwireddu'i uchelgais i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl Merthyr Tudful.

Nid dim ond cyfrifoldeb yr Arweinydd a'r Prif Weithreder Dros Dro yw sicrhau newid. Bydd angen i holl aelodau a swyddogion y Cyngor ymrwymo'n llawn ac yn effeithiol i sicrhau hynny. Mae angen i bawb rannu'r un nod o sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y Cyngor. Mae angen i'r holl aelodau a swyddogion gydweithio er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

Bydd rhagor o fanylion a'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn cael eu rhoi i'r Cynulliad.