Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ailbenodi Maggie Russell yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Penodwyd Maggie am y tro cyntaf yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ar 1 Ebrill 2023 am dymor cychwynnol o dair blynedd a bydd bellach yn parhau am ail dymor o dair blynedd, tan 30 Mawrth 2029.
Ers ymgymryd â'r rôl, mae Maggie wedi dangos ymrwymiad diwyro i sector y celfyddydau yng Nghymru. Mae Maggie wedi arwain gydag uniondeb, gweledigaeth a phwrpas, ac o dan ei harweiniad, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gweinyddu cronfa Cyfalaf Strategol Sector y Celfyddydau gwerth £8m yn 2025-26, gan gefnogi 40 o sefydliadau ledled Cymru, ac wedi gweithio i gyflawni Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant. Mae CCC hefyd wedi elwa o £2.2m ychwanegol o gyllid cyfalaf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025.
Rwy'n hyderus y bydd Maggie yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth gadarnhaol ac effeithiol i'r Cyngor a'r sector celfyddydau ehangach yng Nghymru, dros y tair blynedd nesaf.
