Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni symud ymlaen o’r ymateb brys i’r pandemig a byw yn ddiogel gyda Covid-19, mae’n hollbwysig parhau i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Y gaeaf yw’r tymor pan mae’r bygythiad yn sgil Covid-19 ar ei uchaf, ar gyfer unigolion ac ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o’r rhaglen frechu Covid-19, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi datganiad heddiw yn amlinellu ei gyngor dros dro ar gam nesaf y rhaglen, a fydd yn dechrau yn yr hydref 2022.

Mae’r Cyd-bwyllgor yn argymell cynnig un dos sengl o’r brechlyn Covid-19 i’r bobl ganlynol:

  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a staff sy’n gweithio yn y cartrefi gofal hynny
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pawb sy’n 65 oed a hŷn
  • Oedolion 16 i 65 oed sydd mewn grŵp risg clinigol

Prif nod rhaglen yr hydref yw cryfhau imiwnedd y boblogaeth a diogelu pobl yn erbyn salwch Covid-19 difrifol, yn enwedig salwch difrifol a derbyniadau i’r ysbyty yn ystod y gaeaf.

Gyda fy nghydweithwyr cyfatebol yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor dros dro hwn. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y Cyd-bwyllgor yn parhau i ystyried grwpiau pellach i’w cynnwys yn rhaglen yr hydref, ac rwy’n edrych ymlaen at gael ei gyngor terfynol maes o law. Yn y cyfamser, mae GIG Cymru eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gynllunio ar gyfer gweithredu’r rhaglen, ochr yn ochr â gweithredu’r ymgyrchoedd brechu presennol, gan gynnwys ymgyrch atgyfnerthu’r gwanwyn, sy’n parhau’n weithredol.

I sicrhau y bydd pawb sy’n cael brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn yn gymwys i gael eu brechu eto yn yr hydref – rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022 – byddwn yn dod â rhaglen atgyfnerthu’r gwanwyn i ben ddiwedd mis Mehefin 2022.

Bydd pawb sy’n cael eu pen-blwydd yn 75 oed ar 30 Mehefin neu cyn hynny yn gymwys i gael eu brechlyn ar unrhyw adeg yn ystod ymgyrch y gwanwyn. Rhaid bod o leiaf tri mis wedi pasio ers iddynt gael unrhyw ddos cynharach o’r brechlyn Covid-19 ac ni ddylent fod wedi cael dos atgyfnerthu eisoes yn ystod rhaglen y gwanwyn. Golyga hyn y bydd rhai pobl yn 74 oed ar y diwrnod brechu, ond yn gymwys oherwydd eu bod yn cael eu pen-blwydd yn 75 oed cyn y dyddiad terfyn.

Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddiwyd mewn rhaglenni eraill (fel y rhaglen ffliw tymhorol), a’r dull yng ngwledydd eraill y DU ar gyfer rhaglen frechu Covid-19 y gwanwyn. Os yw rhywun sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn wedi cael haint Covid-19 yn ddiweddar, bydd angen iddynt aros 28 diwrnod neu bedair wythnos o’r dyddiad y cawsant brawf positif cyn y gallant gael eu brechu. Byddant yn gallu cael eu brechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o’r ymgyrch hon os oes angen iddynt ohirio eu brechiad.

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariad ar y rhaglen frechu Covid-19 i roi gwybod ichi am y datblygiadau yn y rhaglen.

Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r GIG a phawb sy’n gysylltiedig â’r rhaglen frechu am eu holl waith caled.