Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n croesawu canfyddiadau interim yr adolygiad annibynnol a gomisiynais a’r cyngor pellach y gofynnais i Gymwysterau Cymru amdano ynghylch yr opsiynau sydd nawr ar gael o ran cymwysterau 2021.

Hoffwn ddiolch i Gymwysterau Cymru a’r panel adolygu a gadeiriwyd gan Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, am eu gwaith trwyadl yn paratoi’r dogfennau hyn inni eu hystyried.

Fel yr wyf eisoes wedi’i gadarnhau, byddaf yn cyhoeddi sut rydym am weithredu o ran cymwysterau 2021 ddydd Mawrth 10 Tachwedd, unwaith y bydd dysgwyr blynyddoedd arholiadau yn ôl yn yr ysgol neu’r coleg.

Cyngor gan Gymwysterau Cymru (dolen allanol) 

Canfyddiadau Interim yr Adolygiad Annibynnol