Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod ichi fod y ddogfen Cyngor Iechyd y Cyhoedd i Ysgolion: Coronafeirws wedi’i chyhoeddi heddiw.

Yn unol â chyhoeddi Gyda’n Gilydd tuag at Ddyfodol Gwell: Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig a’r Cyngor iechyd y cyhoedd diweddaraf i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau: coronafeirws, mae’r cyngor newydd hwn yn golygu bod ysgolion a lleoliadau addysg yn gyson â sectorau eraill yng Nghymru o ran cyngor iechyd y cyhoedd a COVID-19. Mae hefyd yn disodli’r fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion.

Mae’r ddogfen Gyda’n Gilydd tuag at Ddyfodol Gwell yn nodi’r trefniadau pontio hirdymor o bandemig i endemig yng Nghymru. Mae’r cynllun yn egluro sut y byddwn yn cefnu ar gam argyfwng ac yn mabwysiadu trefniadau mwy cynaliadwy a all ein helpu yn y tymor hirach.

Er hynny, fel a gydnabyddir yn y cynllun, nid yw COVID-19 wedi diflannu a bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Am y rheswm hwnnw, mae’n hi’n bwysig o hyd i ysgolion ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau lledaeniad y feirws, gan ddiogelu eu dysgwyr a’u staff. Mae hynny’n cynnwys unrhyw drefniadau diogelu ychwanegol ar gyfer y rhai sy’n fwy agored i niwed, fel y rhai â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin neu'r rhai sy’n byw â rhywun agored i niwed. Drwy barhau i gymryd camau i reoli iechyd y cyhoedd, bydd ysgolion yn helpu i leihau lledaeniad y feirws, i fagu hyder y cyhoedd a staff, ac i leihau’r posibilrwydd o ragor o darfu. Mae’r cyngor newydd yn nodi trefniadau ar gyfer darparu addysg, gan alluogi ysgolion i addasu ymyriadau i adlewyrchu’r risgiau a’r amgylchiadau lleol.

Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol, cynrychiolwyr undebau llafur a swyddogion iechyd y cyhoedd am ymgysylltu’n gadarnhaol â ni drwy gydol y gwaith o lunio’r cyngor hwn. Ein huchelgais i gyd yw sicrhau y gall dysgwyr barhau i gael mynediad at amrediad mor eang â phosibl o brofiadau, a hynny mewn ffordd sy’n diogelu pawb.