Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Prif Weinidog y DU a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig wyneb yn wyneb ar 10 Tachwedd 2022 yn Blackpool. Bûm yn y cyfarfod drwy bresenoldeb rhithwir.

Cadeiriwyd y Cyngor gan Brif Weinidog y DU, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS. Yn bresennol hefyd roedd Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS; yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS; a Phrif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA. Yn niffyg Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd, daeth swyddogion o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon i’r cyfarfod i arsylwi.

Bu’r Cyngor yn trafod y rhagolygon economaidd, a sut y dylai'r llywodraethau gydweithio i fynd i’r afael â chostau byw, effaith chwyddiant cynyddol, a’r heriau a rennir o ran cefnogi’r GIG. 

Wrth gyfrannu at y drafodaeth hon, gofynnais i Brif Weinidog y DU ac i Ganghellor y Trysorlys ystyried yr hyn a ganlyn:

  • Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli’r GIG yng Nghymru, mae’r gallu i’w ariannu yn dibynnu ar benderfyniadau ariannu sy’n cael eu gwneud yn Llywodraeth y DU. Rhaid sicrhau bod y cyllid angenrheidiol ar gael.
  • Dylai’r terfynau benthyca ac o ran arian wrth gefn y cytunwyd arnynt fel rhan o Fframwaith Cyllidol 2016 gael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant.
  • Byddai cael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer mesuryddion rhagdalu yn cyd-fynd â dull tosturiol arfaethedig Prif Weinidog y DU. Ni all fod yn iawn bod yr arian y mae unigolion yn ei gasglu at ei gilydd i dalu am drydan yn cael ei ddihysbyddu gan daliadau sefydlog a osodwyd yn ystod cyfnodau pan nad oedd ganddynt gredyd ac nad oedd dim trydan yn cael ei ddefnyddio. Yn lle hynny, dylai’r Canghellor ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau lyncu’r costau hyn.
  • Dylid adolygu lwfansau tai lleol a thaliadau disgresiwn at gostau tai er mwyn sicrhau eu bod yn cwmpasu costau byw go iawn.
  • Dylai fod cronfa sy’n gwarantu rhag colled ar gyfer undebau credyd ledled y DU fel y gallant fenthyg i’r rhai sy’n ei chael yn anos cael credyd drwy ddulliau traddodiadol, fel nad yw pobl yn troi at fenthycwyr diwrnod cyflog drud. Mae cronfa gwarantu benthyciadau o’r math yma i’w chael yng Nghymru eisoes, y gellid ei hymestyn pe bai cyllid ehangach ar gael.
  • Mae cyfle i weithio ar draws y gweinyddiaethau i ddatblygu strategaeth weithredol ar gyfer cymell y rhai sydd wedi dewis gadael y gweithlu i ailymuno ag ef.

Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad byr yn syth ar ôl y cyfarfod (dolen allanol, Saesneg yn unig).