Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad hwn yn hysbysu’r aelodau am ganlyniad arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Powys ar gyfer plant ac oedolion a gynhaliwyd ym mis Medi. Mae’r cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella ei ddarpariaeth gwasanaethau gofal ac mae’r trefniadau monitro manylach bellach wedi dod i ben.

Roedd arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau plant ym mis Gorffennaf 2017 ac o wasanaethau oedolion ym mis Ionawr 2018 wedi nodi pryderon a methiannau sylweddol, gan arwain at roi’r awdurdod lleol o dan drefniadau monitro manylach. Roedd gofyn iddo ddatblygu cynlluniau gwella, a sefydlwyd bwrdd gwella a sicrwydd i gefnogi arweinydd y cyngor ac i oruchwylio cynnydd yn y maes gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal naw gweithgaredd monitro, gan gynnwys arolygiad dilynol o wasanaethau plant ym mis Hydref 2018 ac adolygiad sicrwydd dros dro o wasanaethau oedolion ym mis Mawrth 2020, arolygiad gwerthuso perfformiad ym mis Medi a chynhadledd wella amlasiantaeth ym mis Hydref.  

Nod yr adolwg ym mis Medi oedd adolygu pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a llesiant. Darganfu Arolygiaeth Gofal Cymru bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd sylweddol ers yr arolwg diwethaf. Nodwyd meysydd o gryfder mewn perthynas ag arwain a rheoli, gweithio mewn partneriaeth ac atal ac ymyrryd yn gynnar mewn gwasanaethau plant.

Yn y gynhadledd ym mis Hydref, nodwyd ymrwymiad yr arweinydd a'r deiliaid portffolio i barhau i ddatblygu gwasanaethau a chynnal y gwelliannau a wnaed. Barnwyd hefyd bod y cysylltiadau a’r gwaith ymgysylltu rhwng partneriaid wedi gwella’n sylweddol, a gwnaed sylwadau am drefniadau cadarn, gonestrwydd, tryloywder, nodau cyffredin a natur adeiladol.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi dod i’r casgliad bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ac nad oes angen trefniadau monitro manylach mwyach.

Mae hyn yn gyson â chanlyniad adolygiad ehangach y bwrdd gwella a sicrwydd a gynhaliwyd yn gynharach eleni, a ddaeth i’r casgliad bod yr awdurdod mewn sefyllfa lawer gwell i lywio ei welliannau ei hun. Ar sail hyn, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i newid o’r trefniant o gael bwrdd gwella a sicrwydd i drefniadau lleol ar gyfer goruchwylio ac ysgogi gwelliannau.

Rwy’n falch bod yr awdurdod lleol yn bwriadu parhau i ganolbwyntio’n agos ar wasanaethau cymdeithasol fel rhan o’r trefniadau lleol hyn, gyda bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol pwrpasol. Bydd prosesau herio allanol a darparu cyngor yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r trefniadau newydd hyn, yn ogystal â rôl sicrwydd gryfach ar gyfer craffu.

Rwyf eisiau cydnabod gwaith caled yr uwch-arweinwyr a staff ar bob lefel o’r awdurdod a'r agwedd benderfynol a ddangoswyd ganddynt i newid a gwella gwasanaethau ar gyfer pobl Powys. Caiff Powys ei ddisgrifio fel ‘awdurdod dysgu’ sy’n awyddus i barhau i gyflawni gwelliannau o ran perfformiad. Gall pobl Powys fod yn dawel eu meddwl bod yr awdurdod wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.