Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Fe hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf o fewn Cyngor Sir Ynys Môn, a sut yr wyf yn bwriadu ymateb iddynt.

Bydd y Cynulliad yn cofio i Archwilydd Cyffredinol Cymru ganfod gwendidau difrifol iawn o fewn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2009: ymddygiad gwael ymysg yr aelodau, cydberthnasau gwan rhwng aelodau a swyddogion, cynllunio strategol annigonol a dim llawer o ymgysylltu â’r cyhoedd. Argymhellodd yr Archwilydd Cyffredinol ein bod yn ymyrryd er mwyn helpu i sicrhau adferiad, a fis yn ddiweddarach fe gyfarwyddodd Brian Gibbons y Cyngor i ymdrin â’r holl broblemau y tynnodd yr Archwiliwr Cyffredinol sylw atynt o fewn 18 mis. Hefyd, fe dynnodd rai swyddogaethau oddi ar y Cyngor, ac fe benododd Reolwr Gyfarwyddwr dros dro a Bwrdd Adfer er mwyn monitro datblygiad y Cyngor.

Ers hynny, mae’n deg dweud bod y Cyngor wedi symud yn ei flaen mewn rhai meysydd. Mae wedi diwygio ei system graffu er mwyn sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn cael mwy o ddylanwad ar fusnes y Cyngor. Mae wedi rhoi terfyn ar yr arfer o benodi cynghorwyr i gadeirio pwyllgorau ac ar gyrff allanol ar sail ymlyniad gwleidyddol a ffafriaeth.

Nid yw rhai o’r problemau mwyaf difrifol wedi diflannu, fodd bynnag. Mae ymddygiad nifer o’r cynghorwyr  yn awgrymu mai eu prif nod yw gweithredu er eu lles hwy eu hunain ac er mwyn eu grwpiau, yn hytrach na gweithio er budd yr ynys gyfan. Mae creu a thorri cytundebau gwleidyddol yn parhau i fod yn un o’r nodweddion sy’n hydreiddio diwylliant gwleidyddol y Cyngor, gan arwain at ansefydlogrwydd ac ansicrwydd nad yw’n llesol i neb. Fis Mehefin diwethaf, er enghraifft, fe adawodd yr Arweinydd ei grŵp, gan ei fod o’r farn fod y grŵp hwnnw’n ei danseilio ef a’r adferiad. Fe ffurfiodd gynghrair newydd, ond ni lwyddodd honno i dderbyn cefnogaeth y mwyafrif. Ers y Nadolig, gwelwyd nifer o ymdrechion i ddisodli’r gynghrair honno, a gosod un o blith nifer o wahanol gyfuniadau yn ei lle. Byddai pob un o’r rhain yn golygu y byddai cyn-gynghreiriaid yn gwrthwynebu ei gilydd, a chyn-wrthwynebwyr mewn grym gyda’i gilydd.

Ochr yn ochr â hynny, mae nifer o garfanau annibynnol cyfnewidiol yn tra-arglwyddiaethu dros wleidyddiaeth y Cyngor, ac mae’n ymddangos nad yw’r cynghreiriau hynny’n seiliedig ar lawer mwy na chyfleustra gwleidyddol.  Ers i ni ymyrryd, mae dau grŵp newydd wedi’i greu, a mae’r hen un wedi’i ddiddymu,. Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi ar y pwyllgor gwaith wedi’u dal gan nifer o wahanol aelodau dros y 18 mis diwethaf. Mae hefyd yn anodd weithiau dilyn trywydd y cynghreirio a’r ymgiprys o un wythnos i’r llall.

Byddai rhai’n dweud bod gwleidyddion yn griw cecrus o ran eu hanian, ac nad yw’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ddim mwy na gwleidyddiaeth leol arferol. Nid wyf yn cytuno â hynny. Nid yw o unrhyw ddiddordeb i mi pwy sy’n arwain y cyngor, na phwy sydd ar y pwyllgor gwaith. Yr hyn yr wyf fi’n ei ddisgwyl, a’r hyn sy’n hanfodol er mwyn cael adferiad, yw sefydlogrwydd. Fel yr wyf wedi’i ddatgan yn glir droeon, rhaid i’r holl gynghorwyr ganolbwyntio eu hymdrechion ar weithio er budd yr ynys, a diwygio strwythurau, arferion a diwylliant y Cyngor er mwyn cyflawni hynny. Nid mater i arweinydd ac aelodau pwyllgor gwaith y Cyngor yn unig yw hyn  - pwy bynnag sy’n llenwi’r swyddi hynny. Mae yna gydgyfrifoldeb ar yr aelodau i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu er lles pobl Ynys Môn.

Wrth reswm, mae gan unrhyw gorff democrataidd yr hawl i ddewis ei arweinydd, ac i gael gwared ar weinyddiaeth nad yw’n ei chefnogi. Ond mae’r ymdrechion parhaus i sicrhau mantais yn tanseilio’r adferiad ac yn llesteirio gwaith y Cyngor. Yr hyn sy’n peri siom ddirfawr i mi yw bod nifer o’r rhai sydd yn awr, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r datblygiadau diweddar wedi rhoi addewidion personol i fy Mwrdd Adfer na fyddent yn ansefydlogi’r weinyddiaeth bresennol, a hynny er mwyn sicrhau’r arferiad. Mae’n amlwg mai addewidion ffug oedd y rhain. Mae hyn i gyd yn awgrymu nad oes llawer o ddim wedi newid yn ystod cyfnod ein hymyrraeth, o leiaf ym meddyliau rhai cynghorwyr. Bydd yn siŵr o olygu bod pobl yn llai parod i weithio i’r Cyngor, neu i gydweithio ag ef, a hefyd i ystyried buddsoddi yn yr ynys. Ac nid yw’n rhoi unrhyw hyder i mi y bydd y Cyngor yn gallu mynd i’r afael â’r heriau difrifol, yn ariannol ac o ran darparu gwasanaethau, y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu, mewn ffordd gydlynol a strategol. Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod rheolaeth gorfforaethol o fewn yr awdurdod yn gwella fel yr oeddwn i wedi gobeithio.

Ynghanol hyn i gyd, mae’n hawdd colli golwg ar staff y Cyngor. Maent yn parhau i weithio’n galed iawn, o dan amgylchiadau hynod anodd, i gyflawni er budd yr ynys, ac mae clod uchel yn ddyledus iddynt am sicrhau bod gwasanaethau Ynys Môn yn parhau i fod yn dda ar y cyfan, ac weithiau’n rhagorol. Ond dim ond o ddydd i ddydd y gall hynny weithio; mae angen arweiniad wleidyddol gadarn a chyson ar hyd yn oed y swyddogion gorau er mwyn ymdrin â materion strategol megis rhesymoli ysgolion a diwygio gofal cymdeithasol. Nid yw’r staff yn derbyn yr arweiniad hwnnw, ac ni fyddant yn ei gael os na fydd y diwylliant gwleidyddol yn newid. I’r gwrthwyneb, maent yn teimlo’n hollol ddigalon a digymhelliad, a hynny’n ddealladwy, o weld yr hyn sy’n digwydd o fewn yr awdurdod ymhlith rhai aelodau etholedig. Mater o amser yw hi cyn i hyn ddechrau effeithio ar wasanaethau rheng flaen a’r gwelliannau angenrheidiol iddynt.

Ni allaf anwybyddu’r sefyllfa hon na chymryd arnaf y bydd popeth yn iawn yn y pen draw. Nod ein hymyriad hyd yma fu helpu’r Cyngor i’w adfer ei hun, a chyda chefnogaeth helaeth y Bwrdd Adfer a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae peth cynnydd wedi’i wneud. Ond mae’n peri pryder difrifol i mi nad yw aelodau’r Cyngor yn dymuno gweld adferiad mewn rhai meysydd pwysig. Mae hynny’n fy arwain i gredu nad oes gan yr ymyriad presennol siawns resymol o lwyddo os caniateir i ymddygiad o’r fath barhau. Os felly, bydd yn rhaid i mi ystyried dull newydd a llymach o ymyrryd, er mwyn cyflymu’r adferiad a gwarchod yr ynys a’i dinasyddion.

Rwyf eisoes wedi clywed barn fy Mwrdd Adfer ar hyn. Maent yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud ond nid ydynt yn gweld llawer o obaith o adferiad cynaliadwy. Mae hynny’n awgrymu bod angen cymryd camau pellach. Ni all y drefn sydd ohoni barhau, gan fod y diffyg sefydlogrwydd a llywodraethu corfforaethol da yn awgrymu’n gryf bod yna anallu i wneud penderfyniadau strategol cadarn, a gallai hynny effeithio’n gyflym ar y gwasanaethau a ddarperir o ddydd i ddydd. Nid wyf yn siŵr ynghylch pa fathau o gamau neu ymyriadau y dylid eu gweithredu ar hyn o bryd. Er bod gen i bwerau eang, mae eu goblygiadau posibl yn golygu bod angen bod yn ofalus iawn wrth eu gweithredu ac mae angen i mi sicrhau hefyd bod unrhyw gamau yr wyf yn penderfynu eu cymryd yn arwain at y gwelliannau sydd, yn ôl pob golwg, yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig sylweddoli bod problemau Ynys Môn yn ymwneud yn eu hanfod â gwerthoedd a diwylliant gwleidyddol - nid yw’r rhain yn faterion y gellir eu datrys yn rhwydd â thrawiad ysgrifbin y Gweinidog.

O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ailarolygiad brys o’r Cyngor, gan wneud argymhellion os yw hynny’n briodol.  Mae hyn yn rhan o’i gylch gwaith statudol, ac mae hefyd yn caniatáu iddo ystyried i ba raddau y mae’r argymhellion cynharach wedi’u rhoi ar waith o fewn y terfyn amser o 18 mis a osodwyd yn 2009. Ond ni ddylai’r Cyngor amau difrifoldeb ei sefyllfa; sefyllfa y mae’r Cyngor ei hun yn gyfrifol amdani i raddau helaeth. Byddaf yn ystyried argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn ofalus iawn wrth benderfynu pa gamau pellach i’w cymryd. Nid wyf am wneud sylw ar unrhyw ganlyniadau ar gyfer y Cyngor cyn i’r archwilydd gynhyrchu unrhyw adroddiad gan nad wyf am ragfarnu’r mater. Fodd bynnag, os bydd y Cyngor yn ymwrthod â’r cyfleoedd i ddatrys ei broblemau, a’r gefnogaeth helaeth yr ydym ni, y Bwrdd Adfer a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi’i rhoi fel rhan o hynny, yna ni fydd ganddo unrhyw un i’w feio ond ef ei hun.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Cynulliad unwaith y byddaf wedi derbyn canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol, ac wedi eu hystyried.