Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymunais ag ail gyfarfod Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn Llundain ar 23 Mai 2025, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU. Hefyd yn bresennol oedd Dirprwy Brif Weinidog y DU, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a meiri rhanbarthol o bob cwr o Loegr. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ddatblygiadau ym maes masnach ryngwladol, a chyfleoedd sy'n deillio o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer twf economaidd a gwasanaethau cyhoeddus. Yn ystod y drafodaeth, tynnais sylw at y canllawiau a gyhoeddwyd gan Gyngor Partneriaeth Gweithlu Cymru ar ddefnydd moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws gweithleoedd y sector cyhoeddus, sy'n adlewyrchu ein dull partneriaeth gymdeithasol. Disgwylir i hysbysiad (dolen allanol) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn y dyfodol agos. 

Yn ogystal, ymunais â chyfarfod gyda Phrif Weinidog y DU, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle pwysig i gyd-drafod datblygiadau byd-eang o bwys, gan gynnwys y sefyllfa yn Rwsia / Wcráin ac Israel / Gaza, a'r cyhoeddiadau diweddar mewn perthynas â masnach y DU gyda'r UE, yr Unol Daleithiau ac India. Croesawais y manteision o ran masnach i Gymru, gan nodi ar yr un pryd bryderon am effaith gweddill tariffau'r Unol Daleithiau, o ystyried cyfran y nwyddau sy'n cael eu hallforio o Gymru i'r wlad. Tynnais sylw at bwysigrwydd trafodaethau cydweithredol rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig er mwyn datblygu cytundebau masnach newydd a manteisio i'r eithaf arnynt. Roedd y drafodaeth hefyd yn ymdrin â phwysigrwydd Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU sydd ar ddod o ran cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac ysgogi twf economaidd. Disgwylir i hysbysiad (dolen allanol) ar gyfer y cyfarfod hwn gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU cyn bo hir.

Roedd cyfarfod dwyochrog ar wahân gyda Phrif Weinidog y DU hefyd yn fodd o drafod materion allweddol i Gymru cyn Adolygiad o Wariant y DU, yn ogystal â gwaith Llywodraeth y DU sydd ag arwyddocâd a goblygiadau arbennig i Gymru, er enghraifft tanariannu’r rheilffordd a chymorth ar gyfer tâl glo, yn ogystal â’r angen am degwch mewn perthynas â chyllid cyfoeth cyffredin yn y dyfodol. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd ein gwaith ar y cyd i gefnogi dyfodol y sector dur yng Nghymru, a phwysigrwydd bwrw ymlaen ag elfennau allweddol o'r agenda diwygio cyfansoddiadol yng Nghymru i gefnogi twf economaidd a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, gan gynnwys mewn cysylltiad â fframwaith cyllidol Cymru, Ystad y Goron a datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.