Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019 ac yn dilyn hynny pleidleisiodd y Senedd i roi Cymru ar lwybr statudol tuag at allyriadau sero net erbyn 2050. Yn y blynyddoedd ers hynny, rydyn ni wedi dechrau creu cyfleoedd i adnewyddu ac adfywio ein heconomi a'n cymunedau, i gynyddu diogelwch ynni, creu swyddi gwyrdd, a lleihau biliau trydan. Drwy fabwysiadu technolegau glanach a mwy effeithlon, gallwn leihau mathau eraill o lygredd hefyd, gan amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr a gwella iechyd ein gwlad.
Rydyn ni hefyd wedi gweld yr effeithiau cynyddol amlwg mae newid yn yr hinsawdd wedi'u cael yn fyd-eang ac yng Nghymru, gyda thair o'r blynyddoedd cynhesaf a rhai o'r gaeafau gwlypaf yn cael eu cofnodi ers cof byw. A hyd yn oed eleni rydyn ni wedi gweld y pedwerydd Mawrth sychaf a'r dechrau poethaf i fis Mai erioed, gyda 27.6C wedi cael ei gofnodi yng Nghaerdydd. Yn ogystal â chymryd camau i leihau allyriadau, rydyn ni'n mynd ati mewn ffordd benderfynol nawr i fynd i'r afael â'r risgiau y mae'r newidiadau hyn yn eu peri i'n gwlad. Mae ein Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd, a gyhoeddais fis Hydref diwethaf, yn nodi'r hyn sy'n cael ei wneud ledled y wlad i adeiladu gwydnwch rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd, fel sychder, llifogydd a thanau gwyllt. Er bod y gwaith hwn yn hanfodol, bydd cyflawni ein cyllidebau carbon yn ein helpu i liniaru allyriadau pellach a'r risgiau cysylltiedig.
Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei gyngor ar lefel Pedwaredd Gyllideb Garbon Cymru, sy'n cynnwys y blynyddoedd 2031 i 2035. Yn fuan, bydd y Pwyllgor hefyd yn cynghori ar y terfyn uned carbon ar gyfer y Drydedd Gyllideb Garbon, sy'n cwmpasu'r blynyddoedd 2026 i 2030. Mae unedau carbon yn darparu mecanwaith lle y gall Gweinidogion ddefnyddio gwrthbwyso rhyngwladol tuag at gyflawni cyllidebau carbon, yn opsiwn arall i weithredu domestig.
Mae cyflawni ein cyllidebau carbon yn golygu gwneud popeth y gallwn ni mewn ffyrdd sy'n gost-effeithiol, amserol a theg i bawb ar draws ein cymdeithas. Mae angen defnyddio'r newid i sero net i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau presennol a gwella cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd.
Yn ymarferol, wrth gwrs bydd gan y llywodraeth rôl bwysig i'w chwarae ond ni fyddwn yn cyrraedd sero net a gwireddu'r manteision niferus heb ymdrech genedlaethol. Mae angen inni harneisio ymrwymiad ac ymdrech pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru, gan weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol cryfach a gwyrddach.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i arwain taith Cymru tuag at sero net, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymdrech sylweddol a'r arbenigedd a gyfrannodd at gynhyrchu'r cyngor cynhwysfawr hwn. Byddwn nawr yn ystyried argymhellion y Pwyllgor, ynghyd â'r dystiolaeth arall sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn yr hydref, rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau i'r Senedd i osod y Bedwaredd Gyllideb Garbon a'r terfyn uned carbon ar gyfer y Drydedd Gyllideb Garbon yn y gyfraith. Byddwn hefyd yn defnyddio'r cyngor wrth inni barhau i ddatblygu ein cynllun ar gyfer cyflawni'r Drydedd Gyllideb Garbon, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd 2026.
Darllenwch gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd.