Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos diwethaf, ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru es ati i gynnull cynhadledd i drafod llygredd ffosfforws yn ein hafonydd yng Nghymru, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa.

Daeth y gynhadledd ag uwch gynrychiolwyr o reoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd a chyrff amgylcheddol ynghyd i drafod datblygu dull strategol a chydgysylltiedig.

Mae llygredd ffosfforws yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru yn fater difrifol, heb ateb hawdd.  Mae'n cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, adeiladu tai, cynhyrchu bwyd a rheoli tir.  Mae pryderon penodol yn bodoli am yr effaith bosib ar  ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu a dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chwmnïau dŵr, mae nifer o brosiectau a rhaglenni eisoes yn mynd rhagddynt i helpu i sicrhau bod ein dŵr o'r safon uchaf.

Ond er hyn, mae ein hafonydd dan bwysau yn sgil amrywiaeth o heriau, gan gynnwys tywydd eithafol, llygredd, newid hinsawdd a thwf yn y boblogaeth.

Nid oes un mesur ar ei ben ei hun a fydd yn datrys yr argyfwng hwn ac nid oes ateb cyflym. Mae angen dull “Tîm Cymru” o weithredu, lle mae'r llywodraeth, y rheoleiddwyr a'r holl sectorau perthnasol yn cydweithio ar unwaith a thros y tymor canolig i wireddu canlyniadau hirdymor i wella ansawdd y dŵr yn ein hafonydd.

Rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan yr holl gynrychiolwyr a oedd bresennol yn y gynhadledd ar 18 Gorffennaf a'r addewidion a wnaed. Fe wnaethom gytuno i gydweithio i symud ymlaen gyda'r mentrau presennol a datblygu a gosod mesurau newydd yn eu lle i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr, ymdrin â chyfyngiadau o ran cynllunio, ac i ddatblygu cynllun gweithredu.

Cytunwyd ar yr wyth maes ymyrryd canlynol yn y gynhadledd, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ar eu cyfer:

1. Byrddau Rheoli Maethynnau a threfniadau llywodraethu a goruchwylio pwrpasol ac addas i’r diben. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid newydd i gefnogi gwaith byrddau rheoli maethynnau, gyda hyd at £415k ar gael yn 2022-23 a darpariaeth ychwanegol yn 2023-24 a 2024-25. Mae hyn yn ychwanegol at arian Llywodraeth Cymru sydd eisoes ar waith:

  • £40 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr ledled Cymru
  • £10 miliwn i gefnogi buddsoddiad seilwaith ar ffermydd yn uniongyrchol yn 2021 i wella gwaith rheoli maethynnau a helpu ffermwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol;
  • Pecyn cymorth i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd gwerth dros £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi gwydnwch yr economi wledig, sy'n cynnwys cefnogi camau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol.

Yn ogystal, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu'r strwythurau llywodraethu presennol er mwyn sicrhau bod y dull cydweithredol ar gyfer Cymru gyfan, a gymeradwywyd yn y gynhadledd ar 18 Gorffennaf, yn cael ei symleiddio ac yn addas i'r diben. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y llywodraeth, y rheoleiddwyr a phob sector yn gweithio mor effeithlon â phosibl i sicrhau gwelliannau o ran ansawdd dŵr a chefnogi'r gwaith o weithredu polisi ac atebion ymarferol.

Bydd canlyniad yr adolygiad hwn yn cael ei gadarnhau yr hydref hwn fel rhan o Gynllun Gweithredu Afonydd ACA (gweler pwynt 8). Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynnydd yn agos ac yn gynnar yn 2023, bydd yn ailymgynnull y gynhadledd i drafod llygredd afonydd.

  1. Galluogi atebion sy'n seiliedig ar natur. Gan adeiladu ar wybodaeth a thystiolaeth sy’n bodoli eisoes, byddwn yn datblygu dull rheoleiddio i alluogi atebion sy'n seiliedig ar natur o fewn dalgylchoedd i liniaru ar y llwyth ffosfforws ac i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.
  2. Nodi a gweithredu mesurau tymor byr priodol. Nodi a gweithredu ymyriadau tymor byr, gan ddefnyddio cymorth ariannol gan ddatblygwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, fel y bo'n briodol.  Gall hyn gynnwys, er enghraifft, asesu manteision posibl cyfleusterau parod i drin carthion fel ateb dros dro cyn gwelliannau i gyfleusterau trin dŵr gwastraff.
  3. Cyfrifiannell maethynnau Cymru gyfan. Gan adeiladu ar waith byrddau rheoli maethynnau, byddwn yn datblygu ac yn hybu cyfrifiannell maethynnau unedig fel offeryn i helpu penderfyniadau cynllunio'n uniongyrchol ar niwtraliaeth maethynnau, a all ystyried data ar lefel dalgylch a nodweddion ac anghenion lleol.
  4. ‘Dewislen’ gyfunol o gamau ac ymyriadau lliniarol posibl. Byddwn yn tynnu ynghyd y dystiolaeth, yr arferion da a’r canllawiau diweddaraf, gan gynnwys ar reoli pridd a thir, i gynorthwyo penderfyniadau byrddau rheoli maethynnau ar gyfres o fesurau i leihau llygredd.
  5. Caniatâd dalgylchoedd. Byddwn yn archwilio’r ffordd orau o fwrw ymlaen â dull o roi caniatâd ar gyfer dalgylchoedd, gan gynnwys y gofynion rheoleiddiol cysylltiedig, i ehangu'r ystod o fesurau lliniaru sydd ar gael i leihau tarddle penodol o lygredd a llygredd gwasgaredig yn afonydd ACA.
  6. Platfform ar gyfer gwrthbwyso maethynnau ac archwilio potensial ar gyfer masnachu maethynnau. Byddwn yn adeiladu ar dreialon cyfredol i asesu'r potensial ar gyfer gwrthbwyso maethynnau i hwyluso’r broses o weithredu mesurau ymarferol mwy integredig o fewn dalgylchoedd, ac, yn y tymor hir, asesu’r rhinweddau o ran masnachu maethynnau.
  7. Map trywydd hirdymor wedi’i gefnogi gan gynllun gweithredu. Gan weithio gyda'r holl bartneriaid, byddwn yn datblygu map trywydd y cytunir arno mewn Cynllun Gweithredu Afonydd ACA yr hydref hwn yn nodi camau gweithredu, amserlenni a chyfrifoldebau clir sy'n adeiladu ar y pecyn tystiolaeth a luniwyd ar gyfer y gynhadledd. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cyflawni drwy strwythurau a sefydliadau priodol.

Rydym yn darparu mwy o gymorth a chyllid nag erioed o'r blaen a byddwn yn parhau i hybu dull cydweithredol, gan ddod â phartneriaid cyflawni ynghyd, gan gynnwys rheoleiddwyr, datblygwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a chymunedau, er mwyn nodi a gweithredu atebion cynaliadwy i leihau'r llygredd yn ein hafonydd.

Drwy wneud hynny, gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau manteision ehangach, fel gwella mynediad i natur, datgarboneiddio, amddiffyn rhag llifogydd, a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gynhadledd. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd a lleihau llygredd ffosfforws.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

https://llyw.cymru/mynd-ir-afael-llygredd-ffosfforws-yn-afonydd-ardal-cadwraeth-arbennig-sac-pecyn-gwybodaeth