Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae newid sylfaenol yn digwydd i’r ffordd rydym yn ariannu, rheoleiddio a goruchwylio addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.  Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond o Brifysgol Aberdeen o’r modd yr ariennir addysg uwch a chyllid i fyfyrwyr.  Cyflwynir yr adroddiad ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol.  Ers hynny rwyf wedi cyhoeddi fy mod wedi gofyn i’r Athro Ellen Hazelkorn i adolygu’r modd y mae addysg ôl orfodol yng Nghymru’n cael ei llywodraethu, ei rheoleiddio a’i goruchwylio.  Cyhoeddir yr adroddiad hwnnw yn y Gwanwyn.  

Mae lle unigryw wedi’i neilltuo i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru o fewn byd addysg uwch Cymru. Y Coleg yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru.  Mae’r Coleg Cerdd a Drama’n cystadlu ag ystod ryngwladol o conservatoires a cholegau celf arbenigol.  Mae prifysgolion eraill yng Nghymru yn cynnig cymysgedd o addysg gelf, cerdd a pherfformiad.

Yng nghyd-destun y newidiadau cyflym sy’n digwydd yn y byd addysg uwch, rhaid sicrhau bod Cymru’n dal i elwa ar gyrsiau perfformio dwys o’r ansawdd uchaf sy’n canolbwyntio ar berfformiadau ymarferol a galwedigaethol.  Mae hynny’n hanfodol i foddhau’r angen am sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol a bywyd creadigol yng Nghymru. Rwyf felly wedi gofyn i’m swyddogion lunio cynigion ar gyfer adolygiad annibynnol o gonservatoires ac addysg uwch yn y celfyddydau perfformio cysylltiedig yng Nghymru.  Byddaf yn cyhoeddi manylion yr adolygiad, gan gynnwys ei gylch gwaith, cyn pen ychydig wythnosau.