Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 7 Tachwedd 2011, cafodd Papur Gwyn, a oedd yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth ynghylch rhoi organau a meinweoedd, ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2012. Cawsom ymateb rhagorol i’r ymgynghoriad hwn, a daeth 1,234 o ymatebion i law cyn y dyddiad cau.  

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny.

Roedd y Papur Gwyn yn deillio o’r ymrwymiad yn ein maniffesto i gyflwyno deddfwriaeth i roi ar waith system feddal o optio allan ar gyfer roi organau. O dan system feddal o optio allan, os nad yw person yn dewis peidio â bod yn rhoddwr, tybir nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiad i’w organau gael eu hystyried ar gyfer eu rhoi, hynny yw pe bai’n marw o dan amgylchiadau sy’n golygu bod rhoi organau’n bosibilrwydd. Byddai’r system hon yn caniatáu i deulu’r person marw fod yn rhan o’r broses benderfynu ar roi organau a meinweoedd. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu gallai newid y system arwain at gynnydd o hyd at 25% yn nifer y rhoddwyr organau.  

Roedd ymgynghoriad blaenorol, a gynhaliwyd yn 2008-9, wedi dangos bod llawer o bobl yng Nghymru yn cefnogi newid o’r fath yn y gyfraith. Gan adeiladu ar yr ymgynghoriad hwnnw, roedd y Papur Gwyn yn gofyn cwestiynau am sut y gellid gweithredu’r trefniadau. Nid oedd yn gofyn yn benodol i’r ymatebwyr nodi a oeddent yn cefnogi’r cynigion ai peidio. Fodd bynnag, roedd 91% (1,124) o’r ymatebion a ddaeth i law yn mynegi safbwynt cyffredinol, gyda 52% (646) o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion a 39% (478) yn eu gwrthwynebu.
 
Mae’r adroddiad dadansoddi yn mynd yn ei flaen i ddangos beth oedd ymateb pobl i’r cwestiynau yn y Papur Gwyn, gan gynnwys cwestiynau ynghylch rôl y teulu, sut y dylid diffinio “byw yng Nghymru” a’r oedran sy’n gymwys cyn bod y trefniadau’n berthnasol.  Byddwn yn ystyried y sylwadau’n ofalus iawn wrth inni fynd ati i ddatblygu’r Bil drafft. Fe’i cyhoeddir at ddibenion ymgynghori cyn y toriad ar gyfer yr haf.