Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn y Papur Gwyn Tai: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell, a gyhoeddais ar 21 Mai 2012, mae ymrwymiad i foderneiddio’r sector rhentu preifat drwy gyflwyno camau i wella safonau rheoli ac i wella cyflwr eiddo. Mae Aelodau’r Cynulliad hefyd wedi nodi bod angen gwella’r sector, a hynny yn adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: Gwneud y mwyaf o’r sector tai rhent preifat yng Nghymru 2011. Cadarnhawyd yr angen hwnnw hefyd gan Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru (2012).

Er mwyn cyrraedd y nod yn hyn o beth, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer landlordiaid ac asiantaethau sy’n gosod ac yn rheoli eiddo yn y sector hwn o’r farchnad dai. Yr wyf heddiw yn cyhoeddi papur ymgynghori: Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru sy’n rhoi gwybodaeth fanylach am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun trwyddedu cenedlaethol.    

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei dargedu’n benodol at randdeilaid, ond mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru fel y bo ar gael i gynulleidfa ehangach. Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y papur hwn yn cyd-redeg â’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y Papur Gwyn ei hun, a gofynnir i bobl ymateb erbyn 17 Awst 2012. Mae Llywodraeth Cymru am weld sector rhentu preifat yng Nghymru ac ynddo gartrefi sy’n cael eu rheoli’n dda ac sydd mewn cyflwr da. Mae’n cydnabod y cyfraniad y gall cartrefi sy’n cael eu rhentu’n breifat ei wneud i helpu i fynd i’r afael ag anghenion o ran tai, ac mae’n cydnabod hefyd y manteision ehangach sy’n gallu bod yn gysylltiedig â chartrefi o’r fath.