Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Papur Gwyn ar Dai: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell, a gyhoeddais ar 21 Mai 2012, yn cynnwys ymrwymiad i foderneiddio’r sector tai rhent preifat drwy gyflwyno mesurau i wella safonau rheoli a chyflwr yr eiddo. Cafodd yr angen i wella’r sector ei nodi hefyd gan Aelodau’r Cynulliad yn adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: Gwneud y Mwyaf o’r Sector Tai Rhent Preifat yng Nghymru 2011, a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru (2012).

Er mwyn cyflawni’r nod hwn, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu i landlordiaid ac asiantaethau sy’n gosod a rheoli yn y sector hwn o’r farchnad dai. Ar 6 Gorffennaf, cyhoeddais bapur ymgynghori: Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru, a oedd yn rhoi rhagor o fanylion am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun trwyddedu cenedlaethol. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 17 Awst 2012. 

Roedd yr ymgynghoriad yn targedu rhanddeiliaid, ond fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd ei weld. Cafwyd bron 200 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae crynodeb ohonynt wedi ei gyhoeddi.