Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd newidiadau sefydliadol sylweddol yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Dros yr un cyfnod, mae nifer y cyrff cynghori sefydlog yn y maes iechyd, ar gyfer y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd, wedi cynyddu i’r graddau bod llawer o grwpiau o’r fath bellach yn bodoli.   Bu Llywodraeth Cymru yn casglu tystiolaeth dros gyfnod o dri mis ddechrau'r flwyddyn a phenderfynwyd bod y system yn cynnwys nifer mawr o weithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig, ond bod hefyd lawer o ddyblygu, arwyddion o weithio mewn ffordd ynysig. Casglwyd hefyd  nad yw’r system yn dwyn ffrwyth ar lefel ddigonol o’i gymharu â'r ymdrech a’r amser sydd ynghlwm wrth y gwaith.   Mae angen i bolisïau iechyd a modelau gwasanaeth fod yn seiliedig ar fewnbwn clinigol cryf. Yng Nghymru, rydym yn ffodus bod gennym hanes cryf ac ymrwymiad i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Mae angen system gref, gredadwy arnom er mwyn manteisio ar farn glinigol arbenigol a bwrw ymlaen â gwelliannau i wasanaethau. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd sy'n sicrhau canlyniadau iechyd gwell ac yn sicrhau ein bod yn gallu byw o fewn ein hadnoddau.   O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu gwneud rhagor o waith ar argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n nodi y dylai'r 32 o grwpiau cynghori cenedlaethol gael eu disodli gan un Cyd-gyngor Proffesiynol. Byddai'r Cyngor yn darparu cyngor clinigol ar gyfer pobl Cymru ac yn gweithredu fel grŵp cyfeirio clinigol i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, cyrff fel Comisiwn Bevan a grwpiau fel y Rhwydweithiau Clinigol.   Bydd y cynigion terfynol yn cael eu cynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyfer ymgynghoriad llawn ond rwy'n annog yr holl randdeiliaid i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu dros dro.   Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.