Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf lansio heddiw yr ail ymgynghoriad hwn ar y cynigion i'w gwneud yn ofynnol i ymarferwyr addysg ychwanegol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Gorchymyn drafft sy'n cynnig diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Rydym am wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod y gweithlu’n cael ei reoleiddio yn broffesiynol ac yn annibynnol. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol, pob pennaeth, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid cymwysedig a gweithwyr cymorth ieuenctid cyflogedig. Rydym yn hyderus y bydd y ddeddfwriaeth hon yn golygu y bydd ein gweithwyr addysg, dysgu ac addysgu proffesiynol ar yr un lefel o ran eu proffesiynoldeb, waeth ble maen nhw'n gweithio.

Ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gofyn i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Dyma’r cam cyntaf ar gyfer rhaglen waith i broffesiynoli ein gweithlu ym maes addysg. O dan y ddeddfwriaeth bresennol nid yw’n ofynnol i staff addysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg, sy'n gwbl anghyson â’r hyn sy’n ofynnol mewn ysgolion a gynhelir. Mae hyn yn cyflwyno risg o ran diogelu plant yn y sector. Felly, mae'n hanfodol bod y newidiadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl er mwyn gwella’r mesurau diogelu i blant a phobl ifanc, yn ogystal â'r gweithlu, mewn ysgolion annibynnol. Rydym hefyd yn gwneud newidiadau i’w gwneud yn ofynnol i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid gofrestru.

Yr ail gam fydd edrych ar fwrw ymlaen â chynigion i gynyddu'r categorïau cofrestru ar gyfer gweithwyr eraill ym maes gwaith ieuenctid, a staff yn y sector ôl-16.

Drwy ychwanegu categorïau cofrestru newydd ac ymestyn y gofynion cofrestru presennol, nod y Gorchymyn drafft yw gwella safonau proffesiynol ar draws y gweithlu addysg. Yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal â rhoi sicrwydd i deuluoedd a'r gymuned ehangach.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw, ac fe fydd yn dod i ben ar 17 Chwefror 2023.