Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ddiolchgar i'r holl unigolion a sefydliadau a gymerodd yr amser i ymateb i’n hymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio gofynion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae'n bleser gen i gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny.

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2024

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gyfle i rhanddeiliaid wneud sylwadau ar yr offeryn statudol drafft. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 21 Tachwedd a derbyniwyd 31 o ymatebion.

Cafwyd cefnogaeth eang i'r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn mynd i'r afael ag anghysondebau yn y gofynion presennol ac sy’n gofyn am grwpiau ychwanegol i gofrestru gyda'r CGA, fel ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned ac uwch staff mewn Sefydliadau Addysg Bellach. Mae'r gwaith i gryfhau'r rheoliadau a fydd yn cynyddu mesurau diogelu i amddiffyn dysgwyr ar draws yr sector Addysg yn parhau ar frys.

Bydd ein cynigion, felly, yn mynd yn eu blaenau heb newidiadau i raddau helaeth a, lle codwyd pryderon neu y gofynnwyd am eglurhad, mae'r materion hyn wedi cael sylw yn y crynodeb o'r ymatebion a gyhoeddwyd heddiw.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yng ngwanwyn 2024. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.